Cymru Fydd yw enw mudiad gwladgarol a sefydlwyd gan rai o Gymry Llundain yn 1886.
Elfen ganolog i raglen y mudiad oedd hunanlywodraeth i Gymru. Yr enw Saesneg ar y mudiad oedd Young Wales, sy'n adlewyrchiad bwriadol o'r mudiad Gwyddelig cyfoes dros hunanlywodraeth i Iwerddon Young Ireland. Y pwnc llosg arall gan y mudiad oedd datgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru. Yn y gyfrol Wales (gol. Keidrych Rhys) dywed gwynfor Evans, (Cyfrol V; Rhif 8/9) Roedd y mudiad yn cynnig dyfodol gwell i bobl, a gafaelodd ym meddyliau'r Cymry; trawsnewidiwyd y mudiad yn 1894, a phersonoliaeth byrlymus Lloyd george oedd yn gyfrifol am y trawsnewid hwnnw.'
Enghraifft o'r canlynol | sefydliad gwleidyddol |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1886 |
Ymhlith aelodau mwyaf blaengar Cymru Fydd yr oedd yr hanesydd J.E. Lloyd (1861 – 1947), y llenor ac addysgwr O.M. Edwards (1858 – 1920) a'r ddau wleidydd Rhyddfrydol Tom Ellis (1859 – 1899)a David Lloyd George (1863 – 1945). Aelodau gweithgar eraill o'r mudiad oedd Beriah Gwynfe Evans (1848 – 1927) a Michael D. Jones (1822 – 1898).
Roedd cylchgrawn o'r un enw'n bodoli cyn ffurfio'r mudiad (yn debyg i Gymdeithas yr iaith). Cyhoeddai'r mudiad ddau gylchgrawn, Cymru Fydd yn Gymraeg a Young Wales yn Saesneg. Bu'r mudiad yn ei anterth rhwng 1894–95, ond yna unodd gyda Ffederasiwn Rhyddfrydwyr Gogledd Cymru (ar 18 Ebrill 1895) gan alw'i hun 'Y Ffederaisn Gymreig Genedlaethol'.
Yng Nghas-gwent, yng ngwanwyn 1896, cafodd ergyd farwol, ond erbyn hynny, roedd llawer o ganghennau wedi eu sefydlu ledled Cymru, ac egin annibyniaeth wedi'i sefydlu ym meddyliau pobl. Roedd gan y mudiad aelod o staff llawn amser a thros 10,000 o aelodau yn ne Cymru. Mae'n debygol iawn, yn ôl William George yn ei gyfrol History of the First National Movement (Gwasg y Brython), mai gwrthdaro rhwng aelodau o'r Rhyddfrydwyr, a llwyddiant a ddaeth yn rhy gynnar, yn rhy fuan oedd y rheswm pam y methodd y mudiad. David Alfred Thomas oedd yr arweinydd yn erbyn annibyniaeth. Bu farw 4 o'r arweinyddion hefyd, tua'r un pryd: Thomas Gee (m. 1898), Tom Ellis (m. 1899), Michael D. Jones (m. 1898) a William Ewart Gladstone (m. 1898) - gwleidydd arall Rhyddfrydol a gredai mewn annibyniaeth i Iwerddon.
Gwelai Lloyd George fod yma gyfle i greu Cymru rydd, rhyddfrydol, gan dorri'r cysylltiad rhwng Rhyddfrydwyr Cymru a Rhyddfrydwyr Lloegr.
Ymgyrchodd dros yr un hawliau i Gymru ag oedd gan y 'Genhedloedd Gartref' gan fwyaf, a hynny o fewn Ymerodraeth Prydain. Rhoddodd y Rhyfel Mawr ddiwedd arni, a thawel oedd yr ymgyrchu dros annibyniaeth nes i Saunders Lewis ail gynnau'r fflam pan sefydlodd Blaid Cymru (neu'r 'Blaid Genedlaethol' yn wreiddiol) yn 1925.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Cymru Fydd, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.