Bartholomew Roberts: Môr-leidr Cymreig

Roedd Bartholomew Roberts (17 Mai 1682 – 10 Chwefror 1722), o Gasnewydd-bach, Sir Benfro, yn fôr-leidr llwyddiannus dros ben yn y Caribî a Gorllewin Affrica rhwng 1719 a 1722.

Ei enw genedigol oedd John Roberts ond mae'n fwy adnabyddus dan yr enw Barti Ddu (Saesneg: "Black Bart") er na ddefnyddiwyd yr enw hwnnw yn ystod ei fywyd . Ef oedd y môr-leidr mwyaf llwyddiannus yn ôl y nifer o longau a gipiodd sef 470 yn ystod ei fywyd.

Bartholomew Roberts
Bartholomew Roberts: Ei fywyd cynnar, Penglog ac Esgyrn, Ffynhonnell y wybodaeth amdano
Ganwyd17 Mai 1682 Edit this on Wikidata
Casnewydd-bach Edit this on Wikidata
Bu farw10 Chwefror 1722 Edit this on Wikidata
o anaf balistig Edit this on Wikidata
Cape Lopez Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethmorwr, môr-leidr, masnachwr caethweision Edit this on Wikidata

Ei fywyd cynnar

Ganwyd Bartholomew Roberts ym 1682 yng Nghasnewydd-bach, rhwng Dinbych-y-pysgod a Hwlffordd yn Sir Benfro. Ei enw genedigol oedd John Roberts, a chredir mai ei dad oedd George Roberts mwy na thebyg. Nid yw'n wybyddus pam y newidiodd ei enw o John i Bartholomew, ond roedd yn arfer ymhlith môr-ladron i gymryd ffugenwau, ac mae'n bosib iddo gymryd yr enw hwnnw ar ôl y môr-leidr adnabyddus Bartholomew Sharp. Credir iddo ddechrau ei fywyd ar y môr pan oedd yn 13 yn 1695 ond nid oes unrhyw gofnod arall ohono tan 1718, pan oedd yn fêt ar slŵp ym Marbados.

Yn 1719, roedd Roberts yn ail fêt ar y llong gaethwasaeth Princess, dan arweiniad y Capten Abraham Plumb. Ar ddechrau mis Mehefin, pan oedd y llong wedi'i hangori yn Anomabu yng Ngorllewin Affrica, ymosododd y môr-leidr o Gymru Hywel Davies arni. Roedd Plumb a'i griw ar ddwy long wahanol, y Royal Rover a'r Royal James. Wedi cipio'r llong, gorfodwyd ef i ymuno â chriw y môr-ladron. Pan laddwyd Hywel Davies, chwech wythnos yn ddiweddarach, dewisodd y môr-ladron Roberts i fod yn gapten yn ei le.

Cyn hir yr oedd llawer o siarad am orchestion Barti Ddu a'i long Royal Fortune. Hwyliodd i mewn i lynges o 42 o longau Portiwgal, daliodd garcharor i'w holi pa un o'r llongau oedd y gyfoethocaf ac yna cipiodd y llong honno a'i hwylio ymaith. Dro arall daeth i borthladd yn Newfoundland lle roedd 22 o longau, a ffodd criw pob un ohonynt mewn ofn. Dywedir ei fod yn cadw disgyblaeth dda ar ei griw, ac yn gwahardd diodydd meddwol ar fwrdd ei long.

Bartholomew Roberts: Ei fywyd cynnar, Penglog ac Esgyrn, Ffynhonnell y wybodaeth amdano 

Gyrrodd y Llynges Frenhinol long ryfel, HMS Swallow dan y Capten Chaloner Ogle, i geisio ei ddal, ac yn 1722 bu brwydr rhwng y llong yma a'r Royal Fortune ger Cape Lopez, Gabon. Ar ddechrau'r ymladd safai Roberts yn ei wisg wychaf yn annog ei griw, ond tarawyd ef yn ei wddf gan fwled a'i ladd. Taflwyd ei gorff i'r môr yn ôl ei ddymuniad. Heb eu capten, ildiodd y gweddill o'r criw, a chrogwyd nifer ohonynt.

Penglog ac Esgyrn

Bartholomew Roberts: Ei fywyd cynnar, Penglog ac Esgyrn, Ffynhonnell y wybodaeth amdano 
Baner Barti Ddu

Dywedir mai ar un o longau Barti y chwifiwyd baner y Penglog a'r Esgyrn am y tro cyntaf. Dywed eraill mai tarddiad y faner ydyw'r Seiri Rhyddion.

Ffynhonnell y wybodaeth amdano

Y ffynhonnell bwysicaf ar gyfer hanes Roberts yw'r llyfr A General History of the Pyrates, a gyhoeddwyd ychydig flynyddoedd wedi ei farwolaeth. Ar dudalen deitl yn argraffiad cyntaf yn 1724, rhoir yr awdur fel Capten Charles Johnson; mae rhai ysgolheigion yn credu mai Daniel Defoe, yn ysgrifennu dan ffugenw, oedd yr awdur. Rhoddodd Johnson fwy o le yn ei lyfr i Roberts nag i unrhyw un o'r môr-ladron eraill, gan ei ddisgrifio fel:

... a tall black man, near forty years of age ... of good natural parts and personal bravery, though he applied them to such wicked purposes as made them of no commendation, frequently drinking "Damn to him who ever lived to wear a halter."

Mewn ffuglen

Ysgrifennodd T. Llew Jones nofel i blant am Roberts o'r enw Barti Ddu.

Rhym Barti Ddu

Yn 2018 lansiwyd rym Barti Ddu Rum gan Jonathan Williams, wedi ei enwi ar ôl y môr-leidr. Mae'r rhym yn cynnwys gwymon a ceir gwahnol flasau. Bu'n rhaid newid enw'r rhym i 'Barti Spiced' oherwydd rheolau Safonnau Masnach sy'n mynnu bod 'rhym' yn 37.5% ABV (mae Bari yn 35%) alcohol. Mae'r ddiod yn cynnwys rwm Caribïaidd wedi'i wneud yn arbenigol, gyda fanila, clof ac oren cynnil, ond gyda bara lawr wedi'i gasglu â llaw.

Cyfeiriadau

Tags:

Bartholomew Roberts Ei fywyd cynnarBartholomew Roberts Penglog ac EsgyrnBartholomew Roberts Ffynhonnell y wybodaeth amdanoBartholomew Roberts Mewn ffuglenBartholomew Roberts Rhym Barti DduBartholomew Roberts CyfeiriadauBartholomew Roberts10 Chwefror168217 Mai1722CaribîCasnewydd-bachGorllewin AffricaMôr-leidrSaesnegSir Benfro

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

1887Janet YellenGeorge CookeGemau Olympaidd yr Haf 2020The Disappointments RoomCoden fustlMelyn yr onnenGeorge WashingtonLewis MorrisEdward VII, brenin y Deyrnas UnedigBenjamin NetanyahuDisturbia6 AwstIfan Gruffydd (digrifwr)Celf CymruJohn Jenkins, LlanidloesLlydawYnni1 MaiPidynAderyn ysglyfaethusBarack ObamaHenry RichardYr Aifft1909DurlifPaddington 2Real Life CamJohn Ceiriog HughesY Rhyfel OerGoresgyniad Wcráin gan Rwsia yn 2022Ardal 51LlyfrgellFernando Alegría1973Etholiadau lleol Cymru 2022Ryan DaviesBugail Geifr LorraineY CwiltiaidContactHwngariVin DieselGoogleL'ultima Neve Di PrimaveraAnnie Harriet Hughes (Gwyneth Vaughan)LlythrenneddParth cyhoeddusJess DaviesPeredur ap Gwynedd1949Emma NovelloPlentynNorwyegEmoções Sexuais De Um CavaloSawdi ArabiaBrad y Llyfrau GleisionTyddewiThe Salton SeaCyfathrach Rywiol Fronnol🡆 More