Dinas a chymuned yn Sir Ddinbych, Cymru, yw Llanelwy (Saesneg: St Asaph).
Yn gynt, roedd yn yr hen sir draddodiadol Sir y Fflint. Mae ganddi boblogaeth o tua 3,491 (Cyfrifiad 2001). Fe'i lleolir rhwng Afon Elwy ac Afon Clwyd ar yr A525 6 milltir i'r de o'r Rhyl a 5 i'r gogledd o Ddinbych. Mae'r A55 yn osgoi'r dref i'r gogledd. Mae Esgobaeth Llanelwy yn sedd Esgob Llanelwy, gyda'i eglwys gadeiriol ei hun, y lleiaf yng Nghymru. Ceir sawl adeilad hanesyddol yn y dref, e.e. yr elusendai o'r 17g ar y Stryd Fawr lle treuliodd Henry Morton Stanley gyfnod annedwydd iawn (1847 - 1856).
Math | dinas |
---|---|
Gefeilldref/i | Bear, Lannarstêr |
Daearyddiaeth | |
Sir | Llanelwy |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.2577°N 3.4416°W |
Cod OS | SJ035743 |
Cod post | LL17 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Gareth Davies (Ceidwadwyr) |
AS/au | James Davies (Ceidwadwyr) |
Credir y lleolwyd caer Rufeinig Varis yn Llanelwy, ond hyd yn hyn mae ei lleoliad yn ansicr. Gorweddai ar Fryn Polyn efallai, ger y dref. Gwyddys fod tref Rufeinig fechan yn Llanelwy, ar diriogaeth y Deceangli.
Dywedir fod Cyndeyrn Sant, esgob Ystrad Clud yn yr Hen Ogledd (canolbarth Yr Alban heddiw), wedi sefydlu clas yn Llanelwy tua'r flwyddyn 560. Pan ddychwelodd y sant i'r Alban gadawodd y clas yng ngofal ei ddisgybl Asaph (neu 'Asa'), ac mae'r enw Saesneg yn dod o'r cysylltiad hwnnw.
Codwyd eglwys gadeiriol ar y safle presennol tua 1100. Ymwelodd Gerallt Gymro â Llanelwy yn ystod ei daith trwy Gymru yn 1188.
Cynhaliodd y Gwyneddigion eisteddfod yn y dref yn 1790. Enillydd y Fedal Arian oedd y bardd Dafydd Ddu Eryri am ei awdl 'Rhyddid'.
Codwyd eglwys gadeiriol yn Llanelwy tua 1100. Cafodd ei llosgi i lawr yn 1282 gan luoedd Edward I o Loegr ac eto yn 1402 yng ngwrthryfel Owain Glyndŵr. Dioddefodd dân yn y Rhyfel Cartref hefyd. Cafodd ei hanewyddu'n sylweddol gan George Gilbert Scott yn 1869. (gweler Eglwys Gadeiriol Llanelwy.)
Mae eglwys y plwyf yn hynafol hefyd. Fe'i codwyd ar ddiwedd y 13g a'i chysegru i'r seintiau Pawl a Chyndeyrn, ond mae'r rhan fwyaf o'r adeiladwaith presennol yn dyddio o'r 15g.
Ger y dref ceir Ogofâu Cae Gwyn a Ffynnon Beuno, ogofâu calchfaen a breswylid yn Hen Oes y Cerrig.
Ar 14 Mawrth 2012, cyhoeddwyd bod Llanelwy i gael ei rhoi statws dinas gan y Frenhines i nodi ei Jiwbilî Diemwnt, ynghyd â Chelmsford a Pherth.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:
Dinas
Llanelwy
Trefi
Corwen · Dinbych · Llangollen · Prestatyn · Rhuddlan · Rhuthun · Y Rhyl
Pentrefi
Aberchwiler · Betws Gwerful Goch · Bodelwyddan · Bodfari · Bontuchel · Bryneglwys · Bryn Saith Marchog · Carrog · Cefn Meiriadog · Clocaenog · Cwm · Cyffylliog · Cynwyd · Derwen · Diserth · Y Ddwyryd · Efenechtyd · Eryrys · Four Crosses · Gallt Melyd · Gellifor · Glyndyfrdwy · Graeanrhyd · Graigfechan · Gwyddelwern · Henllan · Loggerheads · Llanarmon-yn-Iâl · Llanbedr Dyffryn Clwyd · Llandegla · Llandrillo · Llandyrnog · Llandysilio-yn-Iâl · Llanelidan · Llanfair Dyffryn Clwyd · Llanferres · Llanfwrog · Llangwyfan · Llangynhafal · Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch · Llanynys · Maeshafn · Melin y Wig · Nantglyn · Pandy'r Capel · Pentrecelyn · Pentre Dŵr · Prion · Rhewl (1) · Rhewl (2) · Rhuallt · Saron · Sodom · Tafarn-y-Gelyn · Trefnant · Tremeirchion
Abertawe | Bangor | Caerdydd | Casnewydd | Llanelwy | Tyddewi |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Llanelwy, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.