Cerdd gaeth sy'n defnyddio mwy nag un o'r pedwar mesur ar hugain traddodiadol yw awdl.
Nid yw o reidrwydd yn gerdd hir, ond tueddir i gyfystyru awdl â cherdd gaeth hir ar fwy nag un o'r mesurau traddodiadol.
Gofynnir am awdl ar gyfer cystadleuaeth y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn aml. Pan ofynnir am awdl, fe'i cyfyngir i 200 llinell fel arfer. Roedd awdlau eisteddfodol dechrau'r 20g yn llawer hwy.
Yn wreiddiol, cân ar un mesur oedd awdl, ond dechreuodd y Gogynfeirdd hwyraf ganu teirawdl a phymawdl, felly daeth awdl yn gyfystyr â cherdd ar fwy nag un mesur. Roedd llawer o'r awdlau hyn yn cynnal yr un brifodl drwy gydol y gerdd (yr un yw tarddiad awdl ac odl). Erbyn cyfnod Beirdd yr Uchelwyr, daethai awdl i olygu cerdd gaeth ar fwy nag un mesur.
Arferai nifer o Feirdd yr Uchelwyr ganu awdlau gorchestol gan gynnwys pob un o'r pedwar mesur ar hugain. Yr enw a roir ar awdl o'r fath yw awdl enghreifftiol.
Yr awdl oedd cyfrwng dewisedig Beirdd y Tywysogion i ganu mawl a marwnad cyn i'r cywydd ddod yn boblogaidd yn y 14g.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Awdl, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.