Ysgolhaig, beirniad llenyddol a golygydd Cymreig oedd Syr Thomas Parry (4 Awst 1904 – 22 Ebrill 1985).
Fe'i ganed yng Ngharmel, Arfon (Gwynedd). Roedd Gruffudd Parry yn frawd iddo, a Thomas Herbert Parry-Williams ac R. Williams Parry yn gefndryd. Bu f. 22 Ebrill 1985 ym Mangor a'i angladd 24 Ebrill. Bu farw ei briod Enid Parry 21 Ionawr 1998.
Thomas Parry | |
---|---|
Ganwyd | 4 Awst 1904 Carmel, Gwynedd |
Bu farw | 22 Ebrill 1985 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | llyfrgellydd |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | Cymrawd yr Academi Brydeinig, Marchog Faglor |
Thomas oedd yr hynaf o dri brawd a anwyd i Richard Edwin Parry, chwarelwr a thyddynnwr, a'i wraig Jane (née Williams) ym Mrynawel, Carmel, Sir Gaernarfon (Gwynedd heddiw). Priododd tad Richard Parry deirgwaith: mab iddo o'i briodas gyntaf oedd tad Robert Williams Parry; mab arall iddo, o'i ail briodas, oedd tad T. H. Parry-Williams. Mynychodd Ysgol y Babanod, Carmel, ysgol elfennol Penfforddelen ac Ysgol y Sir, Pen-y-groes. Yn 1922 enillodd Ysgoloriaeth Fynediad i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru.
Bu'n bennaeth Llyfrgell Genedlaethol Cymru (1953–1958) pan benodwyd ef yn brifathro ar Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth (1958–1969). Roedd yn brifathro yno pan oedd Charles Windsor yn fyfyriwr, er ei fod yn poeni'n ddifrifol am yr awyrgylch yn Aberystwyth ac y rhybuddiodd yr awdurdodau na allai dderbyn cyfrifoldeb am ddiogelwch y Tywysog. Graddiodd yn y Gymraeg gydag anrhydedd yn y Dosbarth Cyntaf flwyddyn yn hwyr, sef yn 1926, am iddo golli'r rhan fwyaf o'i ail flwyddyn oherwydd y dwymyn goch a'r pliwrisi. Yno cymerasai Ladin fel pwnc atodol. Wedi graddio cafodd swydd darlithydd cynorthwyol mewn Cymraeg a Lladin yng Ngholeg Prifysgol De Cymru a Mynwy, Caerdydd.
Ym Mhrifysgol Caerdydd, yn ogystal â darlithio mewn dwy adran, yn 1929 gorffennodd ei draethawd MA ar 'Fywyd a Gwaith Siôn Dafydd Rhys'. Yno hefyd y cyfarfu ag Enid, a phriodwyd y ddau ar 20 Mai, 1936.
Ar farwolaeth Syr John Morris-Jones yn 1929, penodwyd ef yn ddarlithydd o dan Ifor Williams yn ei hen Adran ym Mhrifysgol Bangor. Pan gyhoeddwyd Gwaith Dafydd ap Gwilym yn 1952 yn gyfrol 800 tudalen fe'i cydnabuwyd fel un o gampweithiau mawr ysgolheictod Cymraeg a gwobrwywyd ef gyda DLitt Prifysgol Cymru. Yn 1959 etholwyd ef yn Gymrawd o'r Academi Brydeinig. Yn 1947, penodwyd ef i Gadair y Gymraeg, ac yna'n Ddeon ei Gyfadran ac yn Is-Brifathro'r coleg.
Yn 1953 derbyniodd wahoddiad i fod yn Llyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth ac yn ystod ei gyfnod yno bu'n Gadeirydd Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol.
Wedi pum mlynedd yn y Llyfrgell fe'i penodwyd yn Brifathro Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Yn ôl Derec Llwyd Morgan:
“ | Yn academaidd, ffynnodd Aberystwyth o dan ei arweiniad; yn gymdeithasol a chorfforaethol, er i'r Piwritan o Arfon yn awr ac eilwaith ei chael hi'n anodd dygymod â moesau ac arferion ieuenctid rhyddfrydig y cyfnod, yr oedd yn bennaeth cywir i'w staff ac yn bennaeth gofalus o'i fyfyrwyr. Yr oedd yn Brifathro llwyddiannus y perchid ef gan bawb bron. | ” |
Pan ymddeolodd o'i Brifathrawiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 1969, fe'i etholwyd yn Llywydd y Llyfrgell Genedlaethol, swydd a ddaliodd am ddeng mlynedd.
Enillodd Goron yr Eisteddfod Gyd-golegol yn 1923, y Gadair yn ogystal â'r Goron y flwyddyn ganlynol, a chyhoeddodd nifer o'i delynegion yn Barddoniaeth Bangor (1924).
Golygodd waith Dafydd ap Gwilym yn y gyfrol Gwaith Dafydd ap Gwilym ac ysgrifennodd hefyd y gyfrol Hanes Llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900. Ef oedd golygydd Blodeugerdd Rhydychen o Farddoniaeth Gymraeg (yr Oxford Book of Welsh Verse) (1962).
Tra'n darlithio ym Mangor cyhoeddodd nifer o erthyglau ar Siôn Dafydd Rhys a'i Ramadeg, y testunau Cymraeg Canol, Peniarth 49 (yn 1929), Theater du mond (1930) a'r Sant Greal (1933), ei gyfieithiad (ar y cyd ag R. Hughes) o Hedda Gabler (1930), a'r awdl “Mam” nad enillodd iddo'r Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Aberafan, ond a gyhoeddwyd fel 'yr awdl orau yn ôl' ei gefnder y Dr. T. H. Parry-Williams (Cerddi'r Lleiafrif, 1932). Yn y cyfnod hwn hefyd y dechreuodd gyhoeddi geiriau caneuon, cyfieithiadau a chyfaddasiadau gan mwyaf. Y mwyaf gwreiddiol o'i lyfrau ysgolheigaidd yn y 1930au oedd Baledi'r Ddeunawfed Ganrif (1935), sydd yn ôl Derec Llwyd Morgan yn "astudiaeth awdurdodol, ragfarnllyd, dra difyr o beth o farddoniaeth boblogaidd y ganrif honno".
Derbyniodd DLittCelt er anrhydedd gan Brifysgol Genedlaethol Iwerddon yn 1968 a rhoddwyd iddo LLD er anrhydedd yn 1970 gan Brifysgol Cymru. Rhoddwyd iddo Fedal Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion yn 1976. Rhwng 1978 a 1982 ef oedd Llywydd y Gymdeithas honno. Urddwyd ef yn farchog yn 1978.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Thomas Parry (ysgolhaig), which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.