Arlunydd Americanaidd oedd Thomas Kinkade (19 Ionawr 1958 – 6 Ebrill 2012) sydd yn nodedig am ei baentiadau o olygfeydd eidylaidd a chartrefol.
Mae ei baentiadau yn aml yn cynnwys bythynnod, pontydd, gerddi, a themâu "Americana". Cynhyrchodd hefyd baentiadau yn arddull Argraffiadaeth, dan y ffugenw Robert Girrard, o 1984 i 1990.
Thomas Kinkade | |
---|---|
Thomas Kinkade yn 2005. | |
Ganwyd | 19 Ionawr 1958 Sacramento |
Bu farw | 6 Ebrill 2012 o gorddos o gyffuriau Monte Sereno |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | arlunydd, ysgrifennwr |
Arddull | celf tirlun |
Gwefan | http://www.thomaskinkade.com |
Ganed yn Sacramento a chafodd ei fagu gan ei fam yn Placerville yng ngogledd Califfornia. Astudiodd hanes celf ym Mhrifysgol Califfornia, Berkeley am ddwy flynedd cyn symud i Goleg Dylunio'r Ganolfan Gelf yn Pasadena, Califfornia. Wedi iddo raddio o'r ysgol gelf, teithiodd Kinkade gyda'i gyfaill James Gurney ar y wagen ar draws y wlad, o Galiffornia i Efrog Newydd, yn braslunio tirluniau a threfluniau'r Unol Daleithiau. Cyhoeddwyd rhai o'u lluniau yn y gyfrol The Artist's Guide to Sketching (1982).
Symudodd Kinkade i Hollywood, a chafodd waith yn paentio cefnluniau ar gyfer y ffilm ffantasi animeiddiedig Fire and Ice (1983). Cynhyrchodd ryw 700 o gefnluniau ar gyfer y ffilm honno, sydd yn nodweddiadol o'i dechnegau llewychol. Yn y 1980au, trodd Kinkade yn Gristion ailanedig. Ar yr un pryd, trodd ei sylw at werthu ei waith yn y farchnad boblogaidd yn hytrach na thrwy orielau'r fasnach gelf draddodiadol, a gafodd ei hystyried yn elitaidd ganddo. Gwerthodd ei baentiadau olew mewn orielau lleol, a dechreuodd argraffu printiau rhad o'i waith.
Ym 1989 sefydlodd Kinkade a Ken Raasch y cwmni Lightpost Publishing, a ailenwyd yn ddiweddarach yn Media Arts Group, Inc. ac yna The Thomas Kinkade Company. Agorodd orielau ei hunan, yn bennaf yn yr Unol Daleithiau, i adwerthu ei waith. Llwyddodd naws deuluol, heddychlon a hiraethus ei baentiadau i apelio at chwaeth y cyhoedd, a Kinkade oedd un o'r arlunwyr Americanaidd mwyaf poblogaidd a llwyddiannus yn y 1990au. Ymddangosodd ei luniau ar galendrau, cardiau cyfarch, mygiau, ac ati. Ar y llaw arall, cafodd ei waith ei wfftio gan y beirniaid, a'i alw'n Kitsch gan rai.
Bu farw ym Monte Sereno, Califfornia, yn 54 oed, o orddos o alcohol a Valium.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Thomas Kinkade, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.