Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Llanfair Talhaearn (hefyd Llanfair Talhaiarn).
Roedd yn Sir Ddinbych cynt. Mae'n sefyll ar groesffordd y briffyrdd A548 a'r A544, tua 5 milltir i'r de o Abergele.
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 1,070 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 4,252.23 ha |
Cyfesurynnau | 53.221°N 3.612°W |
Cod SYG | W04000124 |
Cod OS | SH927700 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Darren Millar (Ceidwadwyr) |
AS/au | David Jones (Ceidwadwr) |
Llifa Afon Elwy drwy'r pentref sy'n gorwedd rhwng bryniau coediog gyda Moel Unben (358 m) yn sefyll allan i'r de.
Enwir y pentref ar ôl Sant Talhaearn (c. 6g). Yn Eglwys Fair ceir cist fedyddio dan-ddaear.
Priododd Twm o'r Nant ei gariad Elizabeth Hughes yn Eglwys Fair ar 19 Chwefror 1763, mewn gwasanaeth a arweinwyd gan y bardd Ieuan Brydydd Hir, cyfaill Twm, oedd yn gurad y plwyf ar y pryd.
I'r gogledd-orllewin ceir plasdy Garthewin, cartref hynafol y Wynniaid a lleoliad theatr Gymraeg arloesol a fu'n llwyfan i berfformiadau cyntaf o rai o ddramâu Saunders Lewis.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:
Trefi
Abergele · Bae Colwyn · Betws-y-Coed · Conwy · Cyffordd Llandudno · Degannwy · Hen Golwyn · Llandudno · Llanfairfechan · Llanrwst · Penmaenmawr · Tywyn
Pentrefi
Bae Cinmel · Bae Penrhyn · Betws-yn-Rhos · Bryn-y-maen · Bylchau · Caerhun · Capel Curig · Capel Garmon · Cefn Berain · Cefn-brith · Cerrigydrudion · Craig-y-don · Cwm Penmachno · Dawn · Dolgarrog · Dolwen · Dolwyddelan · Dwygyfylchi · Eglwys-bach · Esgyryn · Gellioedd · Glanwydden · Glasfryn · Groes · Gwytherin · Gyffin · Henryd · Llanbedr-y-cennin · Llandrillo-yn-Rhos · Llanddoged · Llanddulas · Llanefydd · Llanelian-yn-Rhos · Llanfair Talhaearn · Llanfihangel Glyn Myfyr · Llangernyw · Llangwm · Llangystennin · Llanrhos · Llanrhychwyn · Llan Sain Siôr · Llansanffraid Glan Conwy · Llansannan · Llysfaen · Maenan · Y Maerdy · Melin-y-coed · Mochdre · Nebo · Pandy Tudur · Penmachno · Pensarn · Pentrefelin · Pentrefoelas · Pentre-llyn-cymmer · Pentre Tafarnyfedw · Pydew · Rowen · Rhydlydan · Rhyd-y-foel · Tal-y-bont · Tal-y-cafn · Trefriw · Tyn-y-groes · Ysbyty Ifan
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Llanfair Talhaearn, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.