Plasdy ac ystad yng ngogledd Cymru yw Garthewin.
Lleolir y plasdy ei hun ger Llanfair Talhaearn yn Sir Conwy. Roedd yn gartref i Wynniaid Melai a Garthewin. Mae ganddo le yn hanes y theatr yn Gymraeg oherwydd cysylltiad y theatr fach sydd yno â Saunders Lewis.
Math | plasty |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Llanfair Talhaearn |
Sir | Llanfair Talhaearn |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 148.9 metr |
Cyfesurynnau | 53.2203°N 3.62631°W |
Perchnogaeth | Robert Wynne, Brownlow Wynne Cumming |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II* |
Manylion | |
Cafodd y Chwaraedy (Saesneg: The Playhouse) ei greu trwy ailadeiladu hen ysgubor ger y plasdy (codwyd yn wreiddiol yn 1722). Syniad R.O.F. Wynne oedd hynny. Clough Williams-Ellis (pensaer Portmeirion) oedd y pensaer. Mae'r muriau o gerrig gyda tho llechi a gynhelir gan ddwy fwa sylweddol o waith bric. Ychwanegwyd y llwyfan yn 1937-38. Roedd seddi i ryw gant o gynulleidfa yno. Morris Jones oedd y cyfarwyddwr o 1946 ymlaen.
Perfformwyd sawl un o ddramâu cynnar Saunders Lewis yng Ngarthewin, yn cynnwys Blodeuwedd (cyhoeddwyd 1948). Ymddangosodd y ddwy act gyntaf o'r ddrama honno yn Y Llenor yn 1923 a 1925 ond ym 1947 y gorffennodd Saunders y gwaith pan ofynnodd Chwaraewyr Garthewin iddo am ddrama i'w hactio yn y Chwaraedy.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Garthewin, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.