Pentref yng nghymuned Caerhun, mwrdeisdref sirol Conwy, Cymru, yw Tal-y-bont.
Mae'n gorwedd yng ngogledd-orllewin Dyffryn Conwy, ar lan orllewinol Afon Conwy, ar ffordd y B5106 6 milltir i'r de o dref Conwy, a 6 milltir i'r gogledd o Lanrwst. Mae gyferbyn â phentref Dolgarrog a ger pentref Llanbedr-y-Cennin. Mae'n debygol mai'r bont dros Afon Dulyn a gyfeirir ati yn yr enw, sy'n un o lednentydd Afon Conwy.
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.202°N 3.847°W |
Cod OS | SH766688 |
Cod post | LL32 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Janet Finch-Saunders (Ceidwadwyr) |
AS/au | Robin Millar (Ceidwadwyr) |
Mae Tal-y-Bont yn fan cychwyn y ffordd i Llyn Eigiau a mynyddoedd deheuol y Carneddau. Gellir cyrraedd gogledd y Carneddau a Ffordd Rufeinig Caer-Segontiwm gan ddilyn y ffordd o Dal-y-Bont trwy Llanbedr-y-Cennin - sydd yn marcio ymyl dwyreiniol Parc Cenedlaethol Eryri - a throi i'r chwith wrth dafarn Ye Olde Bull Inn, yn Llanbedr. Gall cerddwyr gyrraedd ochr gogleddol Carneddau a mynyddoedd megis y Drum a Foel Fras, cyn cario mlaen i'r de ddwyrain i gyrraedd Carnedd Llewelyn.
Mae capel ac ysgol gynradd, gwesty The Lodge, tafarn Y Bedol, siop cigydd T. Parry-Jones and Daughters, siop leol a neuadd goffa gyda cyfleusterau adloniadol sy'n cynnwys cwrt tenis. Roedd gorsaf petrol a garej unwaith, sef "Rose's Garage" a oedden yn eiddo Mr. Rose ac yn ddiweddrach ei fab Keith Rose, ond mae hwn eisoes wedi cau i lawr.
Lleolir pentref bychan Caerhun hanner milltir i'r gogledd o Dal-y-Bont, mae Caer Rufeinig Kanovium (tua 60 OC) i'w chanfod yma.
I'r gorllewin o'r pentref mae bryn o'r enw Pen-y-Gaer, lle ceir bryngaer o Oes yr Efydd ar ei gopa. Mae'r bryn yn sefyll mewn lleoliad awdurdodol uwchben y pentref, gyda golygfeydd i lawr y dyffryn i'r gogledd i Gonwy a Llandudno, ac i'r de i Llanrwst. Gellir cyrraedd Pen-y-Gaer gan ddilyn y ffordd sy'n mynd fyny drwy Llanbedr-y-Cennin, a throi i'r chwith wrth dafarn yr Olde Bull Inn a throi i'r chwith eto mewn rhai milltiroedd pan mae'r bryn yn ymddangos uwchben ar y chwith.
Trefi
Abergele · Bae Colwyn · Betws-y-Coed · Conwy · Cyffordd Llandudno · Degannwy · Hen Golwyn · Llandudno · Llanfairfechan · Llanrwst · Penmaenmawr · Tywyn
Pentrefi
Bae Cinmel · Bae Penrhyn · Betws-yn-Rhos · Bryn-y-maen · Bylchau · Caerhun · Capel Curig · Capel Garmon · Cefn Berain · Cefn-brith · Cerrigydrudion · Craig-y-don · Cwm Penmachno · Dawn · Dolgarrog · Dolwen · Dolwyddelan · Dwygyfylchi · Eglwys-bach · Esgyryn · Gellioedd · Glanwydden · Glasfryn · Groes · Gwytherin · Gyffin · Henryd · Llanbedr-y-cennin · Llandrillo-yn-Rhos · Llanddoged · Llanddulas · Llanefydd · Llanelian-yn-Rhos · Llanfair Talhaearn · Llanfihangel Glyn Myfyr · Llangernyw · Llangwm · Llangystennin · Llanrhos · Llanrhychwyn · Llan Sain Siôr · Llansanffraid Glan Conwy · Llansannan · Llysfaen · Maenan · Y Maerdy · Melin-y-coed · Mochdre · Nebo · Pandy Tudur · Penmachno · Pensarn · Pentrefelin · Pentrefoelas · Pentre-llyn-cymmer · Pentre Tafarnyfedw · Pydew · Rowen · Rhydlydan · Rhyd-y-foel · Tal-y-bont · Tal-y-cafn · Trefriw · Tyn-y-groes · Ysbyty Ifan
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Tal-y-bont, Conwy, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.