Tref fechan a chymuned yn Sir y Fflint, Cymru, yw Caerwys.
Saif 8 km (5 milltir) i'r de-orllewin o Dreffynnon. Yng Nghyfrifiad 2001 roedd y boblogaeth yn 1,315.
Math | tref, cymuned |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir y Fflint |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.246°N 3.307°W |
Cod SYG | W04000183 |
Cod OS | SJ128729 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Hannah Blythyn (Llafur) |
AS/au | Rob Roberts (Ceidwadwyr) |
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Hannah Blythyn (Llafur) ac yn Senedd y DU gan Rob Roberts (Ceidwadwyr).
Credai rhai archaeolegwyr a hynafiaethwyr fod y dref yn sefyll ar safle hen gaer Rufeinig Varis, ond erbyn heddiw credir mai ger Llanelwy oedd y safle. Mae enw'r dref yn golygu "caer y gwysiau", ac efallai'n deillio o'r ffaith fod llys yn cael ei chynnal yno hyd y 16g.
Cynhaliwyd dwy eisteddfod bwysig yng Nghaerwys yn 1523 a 1567 i bennu rheolau Cerdd Dafod a Cherdd Dant ac i roi trefn ar feirdd a chantorion. Roedd nifer o feirdd gorau'r cyfnod, fel Tudur Aled, Simwnt Fychan a Gruffudd Hiraethog, yn bresennol. (Am fanylion pellach gweler: Eisteddfod Caerwys 1523 ac Eisteddfod Caerwys 1567).
Mae cysylltiad agos rhwng Caerwys â Philadelphia. Hwyliodd meddyg lleol, Thomas Wynne, mewn llong o'r enw Welcome yn 1682 gyda William Penn. Roedd Wynne yn un o sefydlwyr Philadelphia a daeth yn gadeirydd (neu 'Siaradwr') cyntaf y cynulliad cenedlaethol yno yn ogystal â bod yn farnwr rhanbarthol. Seiliwyd cynllun stryd gwreiddiol Philadelphia ar Gaerwys. Mae enwau Cymraeg i'w gweld ym mhobman yno, ac mae llawer o'r adeiladau yn gopiau o adeiladau a geir yng Nghaerwys.
Er nad yw'r eglwys bresennol yn hen iawn nid yw heb ddiddordeb. Fe'i cysegrir i Fihangel Sant. Mae'r bedyddfaen yn dyddio o 1661 a cheir sgriniau pren hynafol yng nghapel y gogledd. Un o'r creiriau mwyaf diddorol yw clawr arch garreg ac arno ffigwr cerfiedig gwraig, sydd efallai i'w dyddio i'r 13g. Yn ôl traddodiad lleol, claddwyd Elizabeth Ferrers, sef gwraig i Dafydd ap Gruffudd, yn yr eglwys.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:
Trefi
Bagillt · Bwcle · Caerwys · Cei Connah · Y Fflint · Queensferry · Saltney · Shotton · Treffynnon · Yr Wyddgrug
Pentrefi
Abermor-ddu · Afon-wen · Babell · Bretton · Brychdyn · Brynffordd · Caergwrle · Carmel · Cefn-y-bedd · Cilcain · Coed-llai · Coed-talon · Cymau · Chwitffordd · Ewlo · Ffrith · Ffynnongroyw · Gorsedd · Gronant · Gwaenysgor · Gwernymynydd · Gwernaffield · Gwesbyr · Helygain · Higher Kinnerton · Yr Hôb · Licswm · Llanasa · Llaneurgain · Llanfynydd · Llannerch-y-môr · Maes-glas · Mancot · Mostyn · Mynydd Isa · Mynydd-y-Fflint · Nannerch · Nercwys · Neuadd Llaneurgain · Oakenholt · Pantasaph · Pant-y-mwyn · Penarlâg · Pentre Helygain · Pen-y-ffordd · Pontblyddyn · Pontybotgyn · Rhes-y-cae · Rhosesmor · Rhyd Talog · Rhyd-y-mwyn · Sandycroft · Sealand · Sychdyn · Talacre · Trelawnyd · Trelogan · Treuddyn · Ysgeifiog
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Caerwys, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.