Tref a chymuned yn Sir y Fflint, Cymru, yw Shotton.
Saif ar Lannau Dyfrdwy, ac ar yr A548 rhwng Y Fflint a Queensferry, 3 milltir o'r ffîn â gogledd-orllewin Lloegr. Mae ganddi orsaf trenau ar Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru ac mae trac arall yn ei chysylltu â Wrecsam.
Math | tref, cymuned |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir y Fflint |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.209°N 3.042°W |
Cod SYG | W04000208 |
Cod OS | SJ305685 |
Cod post | CH5 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Jack Sargeant (Llafur) |
AS/au | Mark Tami (Llafur) |
Cafodd y dre ei sefydlu fel pentre bach gan y Mersiaid ond newidiai ddwylo'n aml ar ôl hynny. Ni thyfodd lawer tan y 18g pan agorwyd pyllau glo yn yr ardal.
Daeth yn enwog am ei gwaith dur, a agorwyd gan Gwmni John Summers a'i Feibion, o Stalybridge. Ym 1895 prynodd Summers 40 erw ar lannau'r afon am gyfanswm o £5. Agordwyd Gwaith Dur Pont Penarlâg ym 1896, yn cyflogi 250 o dynion. Erbyn 1909, maint y safle oedd 60 erw, a chyflogwyd 3,000 o dynion cyfanswm o £6,000 yr wythnos. Cyflogwyd peirianyddion o'r Iseldiroedd i ddraenio 280 erw o gorstir ar lannau'r afon, ac estynnwyd y gwaith dur.
Gwladodwyd y dywidiant ar 15 Chwefror 1951 gan y llywodreth Lafur. Dadwladodwyd y dywidiant ar 1 Hydref 1954, a daeh perchnogaeth yn ôl i gwmni John Summers. Gwladodwyd y safle eto ym 1967. Yna cafodd ei redeg gan lywodraeth Prydain dan British Steel. Erbyn hyn mae'n rhan o Grŵp Corus.
Agorwyd Pont Penarlâg yn y dref yn 1889. Lleolir Ysbyty Cymunedol Glannau Dyfrdwy yno hefyd.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:
Trefi
Bagillt · Bwcle · Caerwys · Cei Connah · Y Fflint · Queensferry · Saltney · Shotton · Treffynnon · Yr Wyddgrug
Pentrefi
Abermor-ddu · Afon-wen · Babell · Bretton · Brychdyn · Brynffordd · Caergwrle · Carmel · Cefn-y-bedd · Cilcain · Coed-llai · Coed-talon · Cymau · Chwitffordd · Ewlo · Ffrith · Ffynnongroyw · Gorsedd · Gronant · Gwaenysgor · Gwernymynydd · Gwernaffield · Gwesbyr · Helygain · Higher Kinnerton · Yr Hôb · Licswm · Llanasa · Llaneurgain · Llanfynydd · Llannerch-y-môr · Maes-glas · Mancot · Mostyn · Mynydd Isa · Mynydd-y-Fflint · Nannerch · Nercwys · Neuadd Llaneurgain · Oakenholt · Pantasaph · Pant-y-mwyn · Penarlâg · Pentre Helygain · Pen-y-ffordd · Pontblyddyn · Pontybotgyn · Rhes-y-cae · Rhosesmor · Rhyd Talog · Rhyd-y-mwyn · Sandycroft · Sealand · Sychdyn · Talacre · Trelawnyd · Trelogan · Treuddyn · Ysgeifiog
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Shotton, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.