Ardal arfordirol yng ngogledd-ddwyrain Cymru, ar lan Afon Dyfrdwy ac o gwmpas ei haber yw Glannau Dyfrdwy (Saesneg Deeside).
Yn ddaearyddol mae'n cynnwys arfordir gorllewinol penrhyn Cilgwri yng Ngogledd-orllewin Lloegr.
Math | tref bost, Cytref |
---|---|
Enwyd ar ôl | Afon Dyfrdwy |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru Lloegr |
Cyfesurynnau | 53.2°N 3°W |
Mae'r ardal yn gytref ddiwydiannol o drefi a phentrefi yn Sir y Fflint ger y ffin rhwng Cymru a Lloegr, ac yn gorwedd ar ddwy ochr y darn camlasedig o Afon Dyfrdwy sy'n llifo o Gaer i mewn i Aber Dyfrdwy. Mae'r aneddiadau hynny'n cynnwys Cei Connah, Shotton, Queensferry, Aston, Garden City, Sealand, Brychdyn, Bretton, Penarlâg, Ewlo, Mancot, Pentre, Saltney a Sandycroft.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Glannau Dyfrdwy, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.