Pentref a chymuned yn Sir y Fflint, Cymru, yw Penarlâg (Saesneg: Hawarden).
Saif yn nwyrain y sir, ar gyffordd yr A55 a'r A550 tua 6 milltir i'r gorllewin o ddinas Caer dros y ffin. Mae Llyfrgell Deiniol Sant, a sefydlwyd gan William Ewart Gladstone yno. Bu'r Rhyddfrydwr enwog fyw yn y pentref am dros 60 mlynedd. Deiniol yw nawddsant y plwyf. Ceir maes awyr bychan ger y pentref.
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir y Fflint |
Gwlad | Cymru |
Yn ffinio gyda | Ewlo |
Cyfesurynnau | 53.182°N 3.02°W |
Cod SYG | W04000190 |
Cod OS | SJ315655 |
Cod post | CH5 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Jack Sargeant (Llafur) |
AS/au | Mark Tami (Llafur) |
Mae'r eglwys yn dyddio o'r 13g os nad yn gynt ac yn gysegredig i Sant Deiniol, esgob cyntaf Bangor. Ail-godiad yw'r eglwys bresennol, yn sgil tân a losgodd ran o'r eglwys wreiddiol yn ulw ym 1857. Codwyd eglwys newydd gan y pensaer Scott ac mae ganddi nifer o ffenestri lliw godidog gan yr arlunydd Cyn-Raffaëlaidd Edward Burne-Jones.
Cafodd Castell Penarlâg ei godi gan arglwyddi Normanaidd Caer. Fe'i cipiwyd a'i ddinistrio gan Dafydd ap Gruffudd, gweithred a fu'n un o symbylau Ail Ryfel Annibyniaeth Cymru. Ni ddylid ei gymysgu â'r ffug-gastell o'r 18g a elwir hefyd yn Gastell Penarlâg, cartref Gladstone.
Trefi
Bagillt · Bwcle · Caerwys · Cei Connah · Y Fflint · Queensferry · Saltney · Shotton · Treffynnon · Yr Wyddgrug
Pentrefi
Abermor-ddu · Afon-wen · Babell · Bretton · Brychdyn · Brynffordd · Caergwrle · Carmel · Cefn-y-bedd · Cilcain · Coed-llai · Coed-talon · Cymau · Chwitffordd · Ewlo · Ffrith · Ffynnongroyw · Gorsedd · Gronant · Gwaenysgor · Gwernymynydd · Gwernaffield · Gwesbyr · Helygain · Higher Kinnerton · Yr Hôb · Licswm · Llanasa · Llaneurgain · Llanfynydd · Llannerch-y-môr · Maes-glas · Mancot · Mostyn · Mynydd Isa · Mynydd-y-Fflint · Nannerch · Nercwys · Neuadd Llaneurgain · Oakenholt · Pantasaph · Pant-y-mwyn · Penarlâg · Pentre Helygain · Pen-y-ffordd · Pontblyddyn · Pontybotgyn · Rhes-y-cae · Rhosesmor · Rhyd Talog · Rhyd-y-mwyn · Sandycroft · Sealand · Sychdyn · Talacre · Trelawnyd · Trelogan · Treuddyn · Ysgeifiog
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Penarlâg, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.