Hynafiaethydd Cymreig oedd Angharad Llwyd (15 Ebrill 1780 – 16 Hydref 1866) ac awdur arobryn Cymreig.
Angharad Llwyd | |
---|---|
Portread a wnaed tua 1860 o Angharad Llwyd – hynafieithydd Cymreig. | |
Ganwyd | 15 Ebrill 1780 Caerwys |
Bu farw | 16 Hydref 1866 Y Rhyl |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | hynafiaethydd |
Fe'i ganed yng Nghaerwys yn Sir y Fflint, yn ferch i'r Parch John Lloyd, rheithor Caerwys, a oedd hefyd yn hynafieithydd. Enillodd ei hysgrif ar Gatalog o Lawysgrifau Cymreig ayb yng Ngogledd Cymru yr ail wobr yn Eisteddfod Genedlaethol 1824. Cyhoeddodd hefyd Genealogy and Antiquities of Wales a The Castles of Flintshire. Roedd yn aelod o Gymdeithas Cymmrodorion Llundain a golygodd a chyhoeddodd argraffiad o History of the Gwydir Family (Syr John Wynn). Efallai mai ei phrif waith cyhoeddedig oedd History of the Island of Mona a dderbyniodd y brif wobr yn eisteddfod Biwmares yn 1832.
Treuliodd lawer o'i hoes yn copïo llawysgrifau mewn llyfrgelloedd preifat trwy'r wlad ee casgliadau Kinmel a gedwir yn y Llyfrgell Genedlaethol.
Bu farw ar 16 Hydref 1866 yn "Ty'n y Rhyl".
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Angharad Llwyd, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.