Actores o Gymraes oedd Myfanwy Talog (31 Mawrth 1944 – 11 Mawrth 1995).
Myfanwy Talog | |
---|---|
Ganwyd | Myfanwy Talog Williams 31 Mawrth 1944, 1945 Caerwys |
Bu farw | 11 Mawrth 1995, 1995 Swydd Buckingham |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | actor |
Partner | David Jason |
Ganwyd Myfanwy Talog Williams yng Nghaerwys, gogledd-ddwyrain Cymru. Roedd ganddi frawd iau, Gwilym.
Hyfforddodd fel athrawes yng Nghaerdydd cyn cychwyn ar ei gyrfa ym myd y cyfryngau.
Ymddangosai ar y rhaglen Gymraeg i blant, Teliffant, yn ystod y 1970au, yn ogystal â chwarae rhan Phyllis Doris yn y gyfres gomedi boblogaidd Ryan and Ronnie ar y BBC. Yn y 1980au ymddangosai yn yr opera sebon Gymraeg, Dinas, ar S4C, ac mewn sawl cyfres gomedi Saesneg ar y BBC, gan gynnwys Bread a The Magnificent Evans. Yn ddiweddarach, roedd yn fwy cyfarwydd i'r genhedlaeth ifanc fel lleisydd y gyfres cartŵn Wil Cwac Cwac.
Mae plac ar wal y tŷ yn Stryd Fawr Caerwys lle roedd hi'n byw.
Roedd yn bartner i Syr David Jason ers i'r ddau gyfarfod yn y 1970au. Roedd Jason yn adnabod yr actores o Gymraes Olwen Rees wedi iddynt gyd-actio mewn addasiad ffilm o Under Milk Wood (1972). Yn 1977 daeth Jason i Gaerdydd i berfformio mewn drama a daeth Olwen Rees i wylio gyda'i ffrind Myfanwy. Syrthiodd y ddau mewn cariad a bu'r ddau yn bartneriaid am dros 18 mlynedd tan ei marwolaeth o ganser y fron.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Myfanwy Talog, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.