Un o afonydd gorllewin canolbarth Cymru yw Afon Dyfi.
Mae'n tarddu yng Nghreiglyn Dyfi wrth droed Aran Fawddwy ac yn llifo i'r môr ger Aberdyfi.
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.6004°N 3.8567°W |
Aber | Môr Iwerddon |
Llednentydd | Afon Leri, Afon Llyfnant, Afon Einion |
Hyd | 48 cilometr |
Rhoddir isod pob un o lednentydd Afon Dyfi a enwir ar y map Arolwg Ordnans, gan eu rhestri yn ôl glan chwith neu dde'r afon, wedi'u trefnu o'i tharddle hyd ei haber.
Ger Machynlleth mae ffrwd afon Dulas yn aberu yn Afon Dyfi: credir mai hwn yw lleoliad yr Abercuawg enwog y cyfeirir at ganu'r cogau yno yn y gerdd 'Claf Abercuawg', sy'n rhan o gylch Canu Llywarch Hen.
Rhywle ar lan aber yr afon y cynhaliwyd Cynhadledd Aberdyfi yn 1216 a welodd Llywelyn Fawr yn derbyn gwrogaeth tywysogion ac arglwyddi'r de.
Mae un o'r Hen Benillion yn sôn am Afon Dyfi:
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Afon Dyfi, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.