Merch

Benyw ifanc yw merch (plentyn neu rhywun yn eu harddegau'n bennaf), mewn cyferbyniad i fachgen, sef gwryw ifanc.

Merch
Dwy ferch o ardal Urawa, Japan. Mae'r ferch fach ar y chwith yn ferch i'r ferch sydd ar y dde!

Defnyddir hefyd y gair hogan, a geneth (lluosog: genod), yn y gogledd i gyfeirio at benyw ifanc yn gyffredinol. Ond yn y cyd-destun hwn y defnyddir y gair yn unig, yn wahanol i'r gair 'merch' sydd â defnydd gwahanol mewn sawl cyd-destun fel y disgrifir isod.

Defnydd y term

Defnyddir y term merched hefyd i gyfeiro at fwy nag un ddynes, megis yn yr enw 'Merched y Wawr'. Fe'i defnyddir hefyd i gyfeirio at ddynes ifanc fel mater o barch, gan fod y gair dynes yn aml yn rhoi'r argraff o berson hŷn. Mae hyn i'r gwrthwyneb i'r term bachgen, na ddefnyddir i gyfeirio at ddyn ifanc fel rheol.

Ceir yn ogystal y term "hen ferch" i ddynodi dynes ddibriod mewn oed (cf. "hen lanc") a 'merch weddw' i ddynodi merch sydd wedi colli ei gŵr.

Perthynas

Merch yw'r enw am epil benywaidd rhywun, a mab yw'r gair am epil gwrywaidd. Yn draddodiadol, fe'i defnyddiwyd i ddangos perthynas y person i'w thad neu ei mam yn y ffurf enwi patronymig, fel a wneir hyd heddiw gydag 'ap' (e.e. Huw ap Dafydd), e.e. roedd cymeriad poblogaidd yn Arfon gynt o'r enw 'Marged ferch Ifan'. Un o'r enghreifftiau cynharaf y gwyddom amdani yw 'Elen Luyddog ferch Cystennin', mewn llawysgrif o'r 13g sy'n cofnodi chwedl Macsen Wledig. Fel arfer, 'f' fach a roddir yn hytrach na phriflythyren. Cofier hefyd am 'Franwen ferch Llŷr' yn y Mabinogi (Llyfr Gwyn Rhydderch, 14g). Weithiau, newidiai 'merch' yn 'uch'/'ych', megis yn yr enw 'Nest ych Hywel' (1759) neu yn 'ach' fel a geir yn 'Elen ach William' (16g). Ceir enghreifftiau hefyd o enwau matronymig ar ferched.

Mae enghreifftiau eraill yn cynnwys 'merch fedydd' (god-daughter), 'merch-yng-nghyfraith' (daughter-in-law); ceir 'merch wen' (stepdaughter) hefyd, ond 'llysferch' sy'n arferol heddiw. 'Merch fonheddig' ydy dynes o dras, sef boneddiges, a 'merch ordderch' ydy 'merch anghyfreithlon' (cf. hefyd 'merch/mab perth a llwyn').

Chwiliwch am merch
yn Wiciadur.

Tags:

ArddegauBachgenBenywGwrywPlentyn

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Very Bad ThingsThey Had to See ParisHaikuErotikRobert CroftRussell HowardAngela 2Enwau lleoedd a strydoedd CaerdyddHelmut LottiIndienLleuadTamocsiffenAmerican Dad XxxBywydegAnhwylder deubegwn1684Louis PasteurAisha TylerMozilla FirefoxCefin RobertsThe Lord of the RingsWoody GuthrieAnd One Was BeautifulAncien RégimeGwladwriaeth IslamaiddMehandi Ban Gai KhoonVAMP7EneidyddiaethYnysoedd MarshallBaner yr Unol DaleithiauPunch BrothersTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac IwerddonBarry JohnMynediad am DdimBasbousaTargetsGronyn isatomig19151997Gina GersonGaynor Morgan ReesLefetiracetamUsenetAderynYishuvThe Private Life of Sherlock HolmesEtholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2016Two For The MoneyAwstraliaBody HeatTrydanTwngstenEva StrautmannPedro I, ymerawdwr BrasilLawrence of Arabia (ffilm)Mike PenceJimmy WalesKappa MikeyCaerMacOSDavid MillarMwstardKim Il-sungDarlithyddIeithoedd Indo-Ewropeaidd5 HydrefClorinStar WarsEtholiadau lleol Cymru 2022Washington (talaith)Y Byd ArabaiddManchester United F.C.Dafydd IwanEfyddPabell🡆 More