Google Translate

Gwasanaeth cyfieithu sy'n seiliedig ar ystadegau ac a ddarperir gan Google Inc.

i gyfieithu testun, dogfen, neu wefan i iaith arall ydyw Google Translate. Mae ar gael yn rhad ac am ddim.

Google Translate
Google Translate
URL translate.google.com
Math o wefan Peiriant cyfieithu
Cofrestru Na
Perchennog Google
Crëwyd gan Google
Statws cyfredol Gweithredol

Cyflwynwyd y gwasanaeth yn 2007. Cyn hynny, yr oedd Google yn defnyddio peiriant cyfieithu a oedd yn seiliedig ar SYSTRAN. Roedd technoleg SYSTRAN hefyd yn seiliedig ar wasanaethau cyfieithu eraill, megis 'Yahoo! Babel Fish', AOL, a Yahoo.

Y Gymraeg

Gan fod peiriannau cyfieithu yn dibynnu ar gronfa o eirfa a gedwir mewn cronfa ddata, gall cyfieithiadau o un iaith i'r llall fod yn amheus iawn, yn enwedig gydag ieithoedd lle bo newidiadau i gystrawennau, geiriau, a gramadeg (megis trefn ansoddeiriau-enwau a threigladau a geir mewn ieithoedd Celtaidd). Roedd Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn ystyried Google Translate, a'r fath adnoddau, i fod yn "... adnoddau defnyddiol i gyfieithwyr proffesiynol..." a bod y Bwrdd "...wrthi'n paratoi cyngor i gyrff cyhoeddus [i ddweud] nad ydyw'n dderbyniol i ddibynnu'n llwyr ar y fath feddalwedd i gyflawni gofynion Cynlluniau'r Iaith Gymraeg." Mae'r Wicipedia Cymraeg wedi'i ddyfynnu fel un o'r prif resymau pam mae Google Translate Cymraeg wedi gwella'n fawr, gan fod Wicipedia yn darparu corpws mawr o eiriau i Google Translate ddibynnu arno.

Cymhariaeth

Google Translate 
Rhyngwyneb Cymraeg

Gellir cymharu ansawdd Google Translate (fersiwn Tachwedd 2015), fel a ganlyn:

Saesneg gwreiddiol Cymraeg Google Translate Nodiadau
The common alder provides food and shelter to wildlife, with a number of insects, lichens and fungi being completely dependent on the tree. Mae'r wernen gyffredin yn darparu bwyd a lloches i fywyd gwyllt, gyda nifer o bryfed, cennau a ffyngau yn gwbl ddibynnol ar y goeden. Cywir.
It is a pioneer species, colonising vacant land and forming mixed forests as other trees appear in its wake. Mae'n rhywogaeth arloeswr, cytrefu tir gwag a ffurfio coedwigoedd cymysg fel coed arall yn ymddangos yn ei sgil. Anghywir; gwell fyddai: 'Mae'n rhywogaeth sy'n arloesi'. Anghywir hefyd yw 'fel coed arall...'; gwell fyddai: 'fel y mae coed eraill...'
Eventually common alder dies out of woodlands because the seedlings need more light than is available on the forest floor. Yn y pen draw gwern cyffredin yn marw allan o goetiroedd am fod y eginblanhigion angen mwy o oleuni nag sydd ar gael ar lawr y goedwig Anghywir: 'Yn y pen draw gwern cyffredin yn marw allan o goetiroedd am fod...'; cywir fyddai: 'Yn y pen draw, mae'r wernen yn diflannu o'r coedtiroedd gan fod...'. Anghywir hefyd yw 'y eginblanhigion'; cywir fyddai 'yr egin-blanhigion'. Gweddill y frawddeg yn gywir.
Its more usual habitat is forest edges, swamps and riverside corridors. Ei gynefin mwy arferol yw ymylon coedwigoedd, corsydd a choridorau ar lan yr afon. Brawddeg Saesneg wael; nid oes angen 'mwy'. Dim bai yma ar y peiriant cyfieithu. Nid yw'r gair 'coridorau' yn gweddu gant-y-cant yn y Gymraeg.

Fel y gwelir, mae'r rhan fwyaf o'r cyfieithiad Cymraeg yn gywir, ond ceir sawl camgyfieithu annerbyniol.

Google Translate 
Rhyngwyneb y Cymhorthydd Cyfieithu, gan ddefnyddio Google Translate i gyfieithu

Gellir defnyddio Google Translate oddi fewn i'r Cymhorthydd Cyfieithu, drwy ddewis y tesun ac yna ctrl ac Alt.

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Tags:

Google Translate Y GymraegGoogle Translate CymhariaethGoogle Translate CyfeiriadauGoogle Translate Dolenni allanolGoogle TranslateGooglePeiriant cyfieithuYstadegau

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

CelfNo Man's GoldHuw ChiswellSanto Domingo1996Robert RecordeNeymarDafydd Dafis (actor)MeddygJim Driscoll1700auJess DaviesGlawRMS TitanicThe Commitments (ffilm)Support Your Local Sheriff!Comisiynydd y GymraegCurveDydd Gwener y GroglithPla DuBusnesLlun FarageDawid JungY FenniHogia LlandegaiTynal TywyllGroeg (iaith)BywydegEdward H. DafisSacsoneg IselSenedd y Deyrnas UnedigIncwm sylfaenol cyffredinolSaesonBancBeilïaeth JerseyGalwedigaethThe Gypsy MothsGerallt PennantYn y GwaedBretagneT. Rowland HughesNorth of Hudson BayReturn of The SevenMy MistressEmmanuel MacronIago IV, brenin yr AlbanGwobr Nobel am CemegFrom Noon Till ThreeCasnewyddThe Hallelujah TrailThe Trouble ShooterGo, Dog. Go! (cyfres teledu)T. H. Parry-WilliamsNoson Lawen (ffilm)Steffan CennyddEfrogGlasgwm, PowysAmerikai AnzixKama SutraHafanTabl cyfnodolThe ScalphuntersSaddle The WindD. H. LawrenceYr AlmaenTomos yr Apostol37Llys Tre-tŵr🡆 More