Penillion syml yn mynegi teimladau cyffredin megis serch, marwolaeth, natur neu ddoethineb yw'r hen benillion.
Maent yn gerddi traddodiadol, dienw ond ceir yn eu plith lawer a luniwyd gan ferched. Ar fesur y triban, yr awdl-gywydd a’r mesur tri thrawiad. Y patrwm mwyaf cyffredin, fodd bynnag, yw’r pennill sy’n cynnwys pedair llinell, ac yn odli aabb.
Llenyddiaeth Gymraeg | ||||||||
Prif Erthygl Llenyddiaeth Gymraeg Llenorion
| ||||||||
Mae'n anodd dyddio'r hen benillion ond dechreuwyd eu cofnodi yn y llawysgrifau o'r 16G ymlaen. Mae'r rhan fwyaf ohonynt yn dyddio i'r Cyfnod Modern Cynnar ac eraill yn amlwg yn llawer iawn hŷn.
Lewis Morris yn y 18g. oedd y cyntaf i amgyffred eu hapêl, a dechreuwyd eu casglu o dan ei ddylanwad ef a mudiad eisteddfodol y 19g. Mae dylanwad yr hen benillion i’w weld yn amlwg ar ei gerdd fwyaf adnabyddus ‘Caniad y gog i Feirionnydd’. Defnyddiwyd mesur yr hen bennill ynghyd â’r triban yn helaeth yn yr anterliwtiau a luniwyd yn ystod y 18G.
Ceir sawl casgliad ohonynt yn y llawysgrifau Cymreig. Ceir casgliadau pwysig mewn llyfrau printiedig cynnar yn ogystal, yn cynnwys y Flores Poetarum Britannicorum o gasgliad y Dr John Davies, Mallwyd (1710). Cyfeiria Huw Jones o Langwm atynt yn ei ragymadrodd i'r flodeugerdd Diddanwch Teuluaidd (1763). Cyhoeddodd Edward Jones (Bardd y Brenin) ddetholiad pwysig hefyd, yn ei Musical and Poetical Relicks of the Welsh Bards (1784/1794/1808). Casgliad pwysig arall yw'r hwnnw a geir yn y llyfr bychan Lloches Mwyneidd-dra gan Absalom Roberts, a gyhoedwyd yn Llanrwst yn 1828. Casglwyd a golygwyd detholiad cynrycholiadol o'r penillion hyn o sawl ffynhonnell gan T. H. Parry-Williams a'u cyhoeddi yn 1940.
Roedd eraill wedi gweld addaster y mesur cyn dyddiau Lewis Morris. Lluniwyd corff helaeth o gerddi ar fesur yr hen bennill o’r 16g. ymlaen gan feirdd megis Rhisiart Gwyn, y merthyr Catholig (m. 1584), Richard Hughes o Gefn Llanfair (m. 1618) a Morgan Llwyd, y piwritan (m. 1659). Yr un a gysylltir â'r mesur yn fwy na neb yw’r Ficer Prichard (m. 1644). Gwnaeth beth mentrus trwy arddel cyfrwng cyfarwydd, ond diurddas ddigon, wrth geisio annog ei blwyfolion yn Llanymddyfri i fyw bywydau bucheddol, ac wrth gyflwyno i’w sylw neges y Beibl, a hynny mewn modd cofiadwy.
Dyma rai enghreifftiau:
Un o'r pethau cyntaf sy'n ein taro wrth eu darllen yw eu symylrwydd a'r ailadrodd sydd ynddynt. Mae'n debygol bod llawer o’r hen benillion yn wreiddiol yn rhan o gerddi hwy ond bod y penillion eraill wedi eu colli. Fe'u diogelwyd ar lafar trwy eu canu ac esbonia hyn yr enw ‘penillion telyn’ a thrwy eu hadrodd a'u traddodi o genhedlaeth i genhedlaeth. Maent yn dal yn boblogaidd hyd heddiw. Gwelwn ynddynt elfen o ffasiwn, a bod rhai patrymau poblogaidd yn treiddio drwy lawer o'r gwaith: mae nifer wedi eu llunio trwy efelychu penillion cynharach; egyr sawl un â geiriau megis ‘Mae gennyf …’, ‘Llawer gwaith …’, ‘Tri pheth …’.
Y Prifardd Gwynn ap Gwilym a gyfansoddodd y casglaid cyntaf o hen benillion modern o bwys pan ddaeth yn ail am y Goron yn Eisteddfod Aberteifi yn 1996; dyma un o'r penillion arobryn:
Ysgrifennodd Mihangel Morgan hefyd:
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Hen Benillion, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.