Offeiriad a bardd Cymreig oedd Rhys Prichard, gelwir hefyd Y Ficer Prichard neu Yr Hen Ficer (1579? - Rhagfyr 1644).
Rhys Prichard | |
---|---|
Ffugenw | Ficer Prichard |
Ganwyd | 1579 Llanymddyfri |
Bu farw | Rhagfyr 1644 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd |
Ganed ef yn Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin. Nid oes sicrwydd ymhle y cafodd ei addysg gynnar, ond aeth i Goleg Iesu, Rhydychen tua 1597. Ordeiniwyd ef yn offeiriad yn Ebrill 1602 ac ar 6 Awst gwnaeth Anthony Rudd, Esgob Tyddewi, ef yn ficer Llanymddyfri. Yn 1613 cafodd reithoraeth Llanedi yn ogystal. Yn 1614 daeth yn ganon yng Ngholeg Aberhonddu. Cymerodd radd M.A., ac yn 1626 daeth yn ganghellor Tyddewi, ac wedyn yn ganon. Bu farw yn 1644. Yn ôl traddodiad, claddwyd "Yr Hen Ficer" yn Eglwys Llandingad. Gorwedd yr eglwys ar gwr Llanymddyfri ar y ffordd sy'n rhedeg i lawr i Landeilo trwy Langadog. Dywedir y cafodd ei fedd ei olchi i ffwrdd pan orlifodd afon Tywi a difrodi rhan o'r eglwys.
Mae'n fwyaf adnabyddus am ei lyfr Canwyll y Cymry, casgliad o gerddi ar gyfer y werin yn argymell bywyd bucheddol, er enghraiift:
Cyhoeddwyd y rhan gyntaf gan Stephen Hughes yn 1659, a'r ail ran tua dechrau 1660. Yn 1681 cyhoeddwyd argraffiad llawn o'i waith.
Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Rhys Prichard, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.