Gwlad yng Ngorllewin Asia yw Catar (Arabeg: قطر ; ˈqɑ̱.tˁɑ̱r), yn swyddogol Gwladwriaeth Catar (Arabeg: دولة قطر Dawlaṫ Qatar) a leolir ar orynys ar arfordir gogledd-ddwyreiniol Arabia yn y Dwyrain Canol.
Mae'n ffinio â Sawdi Arabia i'r de—ei hunig ffin—ac amgylchynir ei harfordir gan Gwlff Persia. Mae ynys Bahrein yn gorwedd i'r gorllewin, ar ochr draw Gwlff Bahrein. Doha, sy'n gartref i iwch na 80% o drigolion y wlad, ydy'r brifddinas.
Doha, prifddinas Qatar. | |
Arwyddair | Ble daw breuddwydion yn fyw |
---|---|
Math | Emirate, gwladwriaeth sofran, gwlad |
Prifddinas | Doha |
Poblogaeth | 2,639,211 |
Sefydlwyd | |
Anthem | As Salam al Amiri |
Pennaeth llywodraeth | Mohammed bin Abdulrahman Al Thani |
Cylchfa amser | UTC+03:00, Asia/Qatar |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Arabeg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | De-orllewin Asia, Y Dwyrain Canol, Gulf States |
Gwlad | Qatar |
Arwynebedd | 11,437 ±1 km² |
Yn ffinio gyda | Sawdi Arabia, Iran |
Cyfesurynnau | 25.26954°N 51.21277°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Cynulliad Ymgynghorol Qatar |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Emir Gwladwriaeth Qatar |
Pennaeth y wladwriaeth | Tamim bin Hamad Al Thani |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Qatar |
Pennaeth y Llywodraeth | Mohammed bin Abdulrahman Al Thani |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $179,677 million, $237,296 million |
Arian | Qatari riyal |
Cyfartaledd plant | 2.026 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.855 |
Yn 2013 roedd poblogaeth Catar yn 1.8 miliwn; 278,000 o ddinasyddion Qatari ac 1.5 miliwn o alltudion. Yn y cyfrifiad diweddaraf roedd poblogaeth y wlad yn 2,639,211 (2017).
Yn yr 20g, ar ôl iddi gael ei rheoli gan Ymerodraeth yr Otomaniaid, fe'i rheolwyd gan Brydain nes iddi ddod yn annibynnol yn 1971. Chwaraeodd y teulu Al Thani le blaenllaw yn ei rheolaeth ers canol y 19g, ac mae Catar heddiw dan reolaeth unbeniaethol ei theulu brenhinol; ei harlywydd yw Emir Tamim bin Hamad Al Thani. Wedi Sawdi Arabia, Qatar yw'r gymdeithas mwyaf ceidwadol o aelodau'r مجلس التعاون لدول الخليج العربية (Cyngor Cydweithredol y Gwlff (neu'r GCC)).
Mae'r rhan fwyaf o Gatariaid yn cadw'n agos iawn i ddehongliad Wahhabi o Islam.< Cyfraith Sharia yw prif ffynhonnell eu cyfreithiau, yn unol â chyfreithiau eu gwlad.
Catar yw gwlad gyfoethoca'r byd, yn ôl y pen, gyda thwf uwch nag unrhyw wlad Arabaidd arall. Caiff hefyd ei chydanbod fel 'economi incwm uchel' gan Fanc y Byd. Mae ganddi fwy o nwy wrth gefn nag unrhyw wlad arall ar y Ddaear; mae ei chronfa wrth gefn dros 25 biliwn casgen. Oherwydd hyn i gyd, mae dylanwad Catar yn fawr iawn. Yn ystod y Gwanwyn Arabaidd, cefnogodd Catar nifer o grwpiau gwrthryfelgar, yn ariannol a thrwy ei grŵp cyfryngol Al Jazeera. Qatar fydd yn cynnal Cwpan y Byd FIFA yn 2022, y wlad Arabaidd gyntaf i wneud hynny.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Catar, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.