Cyfrifiad Y Deyrnas Unedig 2011

Cynhaliwyd cyfrifiad ym mhob rhan o'r DU, a adnabyddir yn gyffredinol fel Cyfrifiad 2011, ar ddydd Sul 27 Mawrth 2011.

Hwn oedd yr 20fed cyfrifiad yn y Deyrnas Unedig. Trefnwyd y Cyfrifiad gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yng Nghymru a Lloegr a gan Swyddfa Gofrestru Gyffredinol yr Alban yn yr Alban a gan Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon yng Ngogledd Iwerddon. Mae canlyniadau manwl yn ôl ardal, ardal cyngor, ward ac ardal allbwn ar gael ar eu gwefannau perthnasol.

Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2011
Cyfrifiad Y Deyrnas Unedig 2011
Cyfrifiad blaenorol Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2001
Cyfrifiad nesaf Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2021
Ardal Deyrnas Unedig
Awdurdod Swyddfa Ystadegau Gwladol
Dyddiad y Cyfrifiad 27 Mawrth 2011
Cyfrifiad Y Deyrnas Unedig 2011
Hysbyseb yng Nghernyw ar sut i nodi eu cenedligrwydd Cernyweg yng Nghernyw.

Rhyddhawyd y canlyniadau cyntaf, sef amcangyfrifon am oedran, rhyw a deiliaid tai, ar 16 Gorffennaf 2012., a dilynwyd hyn gyda gwybodaeth manylach ar 11 Rhagfyr 2012. Daw rhagor o fanylion yn y misoedd hyd at Hydref 2013.

Y ddau fater llosg sy'n deillio o'r wybodaeth hon parthed Cymru yw: lleihad yn y niferoedd sy'n siarad Cymraeg a lleihad yn y niferoedd sy'n nodi eu crefydd fel "Cristion".

Y Gymraeg

Bu cwymp yng nghanran poblogaeth y dinasyddion a nododd eu bont yn siarad Cymraeg, a chwympodd y nifer absoliwt hefyd. Y gwahaniaeth rhwng y ddau rif yma ydy'r cynnydd a welwyd yn y nifer o bobl ddwad neu fewnlifiad o wledydd eraill i Gymru. Canfyddwyd:

  • Bu cwymp (neu "leihad") o 9% yng nghanran y boblogaeth sy'n siarad Cymraeg (o 20.8% i 19.0%, sef 1.8 pwynt canran). Ond 3.5% oedd y cwymp yn nifer y siaradwyr. Mae'r ffigurau'n wahanol oherwydd twf ym mhoblogaeth Cymru. Bu cynnydd hefyd o ddau bwynt canran yn nifer y trigolion a anwyd y tu allan i'r wlad.
  • Yn y De Orllewin y gwelwyd y cwymp mwyaf yn nifer y siaradwyr: yn Sir Gâr, Ceredigion, Castell-Nedd Port Talbot ac Abertawe. Roedd Cyfrifiad 2001 wedi dangos canran uchel o siaradwyr Cymraeg yn y siroedd hyn a oedd dros 65 oed, felly gellir dadlau fod rhan o'r cwymp presennol yn deillio o ostyngiad hanner canrif yn ôl yn nghanran y plant a fagwyd yn siarad Cymraeg.
  • Yn y De Ddwyrain, bu i gyfran y siaradwyr Cymraeg gwympo'n sylweddol ym Mlaenau Gwent, Torfaen a Merthyr Tudful. Ar y llaw arall, cynyddodd cyfran y siaradwyr Cymraeg yng Nghaerffili a Sir Fynwy rhyw fymryn. Yn ôl Cyfrifiad 2001 roedd mwyafrif y siaradwyr Cymraeg yn y siroedd hyn yn blant ysgol, ac roedd y niferoedd yn cynnwys llawer o blant nad oedd â rhiant a oedd yn medru Cymraeg ac nad oedd ychwaith yn mynd i ysgol cyfrwng Cymraeg. Gan na fu newid chwyldroadol yn nulliau dysgu Cymraeg rhwng 2001 a 2011, mae yna le i gredu fod y cwymp yn deillio o newid yn y ffordd mae rhieni yn nodi sgiliau ail iaith eu plant yn y Gymraeg ar ffurflen y Cyfrifiad, yn hytrach na newid yn arfer iaith y boblogaeth.
  • Yn y Gogledd Ddwyrain yn Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam, bu gostyngiad yn niferoedd y siaradwyr Cymraeg hefyd, ond i raddau llai. Bydd ystadegau wardiau yn dangos yn gliriach a yw'r ardal hon yn dilyn patrwm cyffredinol y De Orllewin neu'r De Ddwyrain.
  • Yn y Gogledd Orllewin yng Ngwynedd, Môn a Chonwy, roedd nifer y siaradwyr yn weddol sefydlog ond mae cynnydd yn y boblogaeth oherwydd y mewnlifiad yn golygu bod canran y siaradwyr wedi gostwng.
  • Yng Nghaerdydd, cynyddodd nifer y siaradwyr yn sylweddol, ond oherwydd twf poblogaeth y brifddinas ni fu ond cynnydd bychan yn y ganran.
  • Mae'r ystadegau'n dibynnu ar farn a thuedd y person a lenwodd y ffurflen wreiddiol, felly mae newid mewn agweddau tuag at y Cymraeg yn effeithio ar y canlyniadau, heb o reidrwydd adlewyrchu newid yn yr arferoedd ieithyddol. Ceir gwahaniaethau, hefyd, rhwng y cyfrifiadau gwahanol yn y cwestiynau a ofynwyd (ond nid am y Gymraeg rhwng 2001 a 2011). Am y rhesymau hyn, gall cymharu'r union ffigurau'n uniongyrchol fod yn gamarweiniol.
Ardal Siarad Cymraeg 2001 Siarad Cymraeg 2011 Newid, Nifer Cyfran Siaradwyr Poblogaeth ≥ 3 Oed, 2001 Poblogaeth ≥ 3 Oed, 2011 Newid, Pwynt Canran o'r Boblogaeth
Ynys Môn 38,893 38,568 -325 colli un o bob 119 siaradwr 64,679 67,403 -2.91%
Gwynedd 77,846 77,000 -846 colli un o bob 92 siaradwr 112,800 117,789 -3.64%
Conwy 31,298 30,600 -698 colli un o bob 44 siaradwr 106,316 111,724 -2.05%
Sir Ddinbych 23,760 22,236 -1524 colli un o bob 15 siaradwr 90,085 90,527 -1.81%
Sir y Fflint 20,599 19,343 -1256 colli un o bob 16 siaradwr 143,382 146,940 -1.20%
Wrecsam 18,105 16,659 -1446 colli un o bob 12 siaradwr 124,024 129,425 -1.73%
Powys 25,814 23,990 -1824 colli un o bob 14 siaradwr 122,473 129,083 -2.49%
Ceredigion 37,918 34,964 -2954 colli un o bob 12 siaradwr 72,884 73,847 -4.68%
Sir Benfro 23,967 22,786 -1181 colli un o bob 20 siaradwr 110,182 118,392 -2.51%
Sir Gaerfyrddin 84,196 78,048 -6148 colli un o bob 13 siaradwr 167,373 177,642 -6.37%
Abertawe 28,938 26,332 -2606 colli un o bob 11 siaradwr 216,226 231,155 -1.99%
Castell-nedd Port Talbot 23,404 20,698 -2706 colli un o bob 8 siaradwr 130,305 135,278 -2.66%
Pen-y-bont ar Ogwr 13,397 13,103 -294 colli un o bob 45 siaradwr 124,284 134,545 -1.04%
Bro Morgannwg 12,994 13,189 195 ennill un o bob 66 siaradwr 115,116 122,018 -0.48%
Caerdydd 32,504 36,735 4231 ennill un o bob 7 siaradwr 294,208 332,273 0.01%
Rhondda Cynon Taf 27,946 27,779 -167 colli un o bob 167 siaradwr 223,924 225,555 -0.16%
Merthyr Tudful 5,532 5,028 -504 colli un o bob 10 siaradwr 54,115 56,623 -1.34%
Caerffili 18,237 19,251 1014 ennill un o bob 17 siaradwr 163,297 171,972 0.03%
Blaenau Gwent 6,417 5,284 -1133 colli un o bob 5 siaradwr 67,795 67,348 -1.62%
Torfaen 9,780 8,641 -1139 colli un o bob 8 siaradwr 88,062 87,844 -1.27%
Sir Fynwy 7,688 8,780 1092 ennill un o bob 7 siaradwr 82,351 88,609 0.57%
Casnewydd 13,135 13,002 -133 colli un o bob 98 siaradwr 131,820 139,849 -0.67%
CYMRU 582,368 562,016 -20,352 colli un o bob 28 siaradwr 2,805,701 2,955,841 -1.74%

Cymhariaeth gyda Chyfrifiad 2001

Yn ystod y ddegawd hon newidiodd y ganran a oedd yn gallu siarad Cymraeg a gwelwyd cynnydd sylweddol yn awdurdodau de-ddwyrain Cymru’n arbennig ond gostwng wnaeth y canrannau yn y pedwar awdurdod a oedd â’r canrannau uchaf yn siarad Cymraeg, sef Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin.

Yn 2001 lleiafrif o 41% (239,000) o’r holl siaradwyr a oedd yn byw yn y pedair sir hynny lle roedd mwyafrif y boblogaeth yn gallu siarad Cymraeg Roedd hyn yn cymharu gyda 48% (245 mil) yn 1991. Mae dosbarthiad y siaradwyr yn amrywio’n ôl oed ac yn ôl siaradwyr rhugl.

Canlyniad y newidiadau hyn oedd bod llai o gymunedau lle roedd canrannau uchel yn gallu siarad Cymraeg er bod hefyd lai o gymunedau lle roedd canrannau isel iawn yn gallu siarad Cymraeg.

Cyfeiriadau

Cyfrifiad Y Deyrnas Unedig 2011  Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o wefan Comisiynydd y Gymraeg. Caniateir atgynhyrchu deunydd y Comisiynydd am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng cyn belled â’i fod yn cael ei atgynhyrchu’n gywir ac na chaiff ei ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol. Uwchlwythwyd y gwaith hwn i'r Wicipedia Cymraeg o dan hawliau trwydded 'Defnydd Teg'.

Tags:

201127 MawrthCyfrifiadSwyddfa Ystadegau Gwladol

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

İzmirRalphie MayKama SutraSupport Your Local Sheriff!Bu・SuMecsicoNaturBydysawd (seryddiaeth)MET-ArtSiôn JobbinsLlywodraeth leol yng NghymruSybil AndrewsBBC Radio CymruDulynIâr (ddof)Thomas Edwards (Yr Hwntw Mawr)Deallusrwydd artiffisialHuw ChiswellY rhyngrwydPrifysgol CaerdyddDyslecsiaYstadegaethUTCNic ParryLa Ragazza Nella NebbiaCorff dynolMacOSRhagddodiadRhyw llawSiôn EirianCannu rhefrolCymraegBrandon, SuffolkRSSDisturbiaLlyn TegidAlhed LarsenBarbie & Her Sisters in The Great Puppy AdventureLeah OwenMoldovaAmser hafSir Gawain and the Green KnightYn SymlCarl Friedrich Gauss1700auTwo For The MoneyArgyfwng tai CymruRose of The Rio GrandeCharles AtlasGari WilliamsLAled Lewis EvansCeri Wyn JonesY Brenin ArthurRhestr Papurau BroGwynfor EvansBrimonidinE. Wyn JamesTŷ unnosMyrddinOn The Little Big Horn Or Custer's Last StandAlban HefinCod QREnllib🡆 More