Actor a gweithredwr gwleidyddol o Gymro yw Michael Sheen (ganwyd 5 Chwefror 1969).
Wedi hyfforddiant yn RADA gweithiodd ym myd theatr drwy'r 1990au. Daeth yn nodedig am bortreadu pobl go-iawn mewn dramau ffuglen ar lwyfan a'r sgrîn, gyda dynwarediau cynnil o bersonoliaethau fel Tony Blair, Kenneth Williams, David Frost, Brian Clough a Chris Tarrant.
Michael Sheen | |
---|---|
Llais | Michael Sheen voice.flac |
Ganwyd | Michael Christopher Sheen 5 Chwefror 1969 Casnewydd |
Man preswyl | Los Angeles, Baglan |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor llais, actor llwyfan, actor ffilm, actor, actor teledu |
Swydd | Llysgennad Ewyllus Da UNICEF |
Partner | Kate Beckinsale, Sarah Silverman, Rachel McAdams |
Plant | Lily Mo Sheen |
Gwobr/au | OBE, Gwobr James Joyce |
Ganwyd Michael Christopher Sheen yng Nghasnewydd, Gwent, yn fab i Irene a Meyrick Sheen. Roedd y ddau'n gweithio fel rheolwyr personel. Mae ei dad yn ymdebygu o ran ei olwg i Jack Nicholson ac yn gweithio fel actor look-alike rhan amser. Mae gan Michael chwaer iau o'r enw Joanne. Pan oedd yn 5 oed symudodd y teulu i Wallasey, Magwyd Sheen ym Mhort Talbot a mynychodd Ysgol Gyfun Glan Afan. Ymunodd â Theatr Ieuenctid Cymru yn 16 oed, cyn derbyn hyfforddiant yn y RADA.
Sefydlodd Sheen ei hun fel un o dalentau ifanc mwyaf addawol y sîn theatraidd, fel Mozart yn nrama Peter Shaffer Amadeus, ac ymddangosodd ar y llwyfan yn theatr yr Old Vic dan gyfarwyddwyd Peter Hall. Portreaodd y cyn brif-weinidog Tony Blair deirgwaith yn y ffilmiau a gyfarwyddwyd gan Stephen Frears, The Deal a The Queen.
Derbyniodd OBE yn 2009 am wasanaethau i actio ond dychwelodd yr anrhydedd yn 2017. Yn Rhagfyr 2020, esboniodd fod hyn yn dilyn cyfnod pan gychwynnodd ddysgu am hanes Cymru wrth baratoi ar gyfer rhoi darlith goffa Raymond Williams. Penderfynodd roi'r OBE yn ôl fel ei fod yn gallu traddodi'r ddarlith a datgan ei farn am y teulu brenhinol heb ragrith.
Yn 2024, cyfarwyddodd ac ymddangosodd Sheen yng nghyfres deledu'r BBC, The Way, a osodwyd yn ei dref enedigol, Port Talbot.
Mae gan Sheen ferch o'i gyn-gariad tymor-hir, yr actores Seisnig Kate Beckinsale sef Lily Mo Sheen, a anwyd ar 31 Ionawr 1999. Daeth y berthynas gyda Beckinsale i ben tra'n ffilmio Underworld, lle'r oedd y ddau'n serennu. Gadawodd Beckinsale ef am berthynas gyda cyfarwyddwr y ffilm, Len Wiseman, a priododd y ddau'n ddiweddarach. Ni ymddangosodd Sheen yn y ffilm ddilynol, ar wahân i ôl-fflachiau o'r ffilm gyntaf. Ar ôl byw yn yr Unol Daleithiau gyda Beckinsale am gyfnod, dychwelodd i wledydd Prydain pan ddaeth y berthynas i ben. Mae'r ddau wedi bod yn rhieni ar y cyd i'w merch.
Yng nghanol 2019 cyhoeddodd Sheen ei fod ef a'i bartner, Anna Lundberg, yn disgwyl plentyn. Prynodd Sheen dŷ yng Nghwmtwrch lle bu'n byw yn ystod 2019 a 2020. Ganwyd Lyra, merch i'r cwpl ar 23 Medi 2019.
Mae Sheen yn gefnogwr Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe erioed.
Blwyddyn | Teitl | Rôl | Nodiadau |
---|---|---|---|
1995 | Othello | Lodovico | |
1996 | Mary Reilly | Bradshaw | |
1997 | Wilde | Robbie Ross | |
2002 | Heartlands | Colin | |
2002 | The Four Feathers | Trench | |
2003 | Bright Young Things | Miles | |
2003 | Underworld | Lucian | |
2003 | Timeline | Lord Oliver | |
2004 | Laws of Attraction | Thorne Jamison | |
2004 | The Banker | Y Bancwr | |
2005 | Dead Long Enough | Harry Jones | |
2005 | Kingdom of Heaven | Offeiriad | |
2006 | Underworld: Evolution | Lucian | |
2006 | The Queen | Tony Blair | Nomineiddwyd - Actor Cefnogol Gorau BAFTA |
2006 | HG Wells: War with the World | H. G. Wells | Ffilm teledu |
2006 | Blood Diamond | Simmons | |
2007 | Music Within | Art Honeyman | |
2008 | Frost/Nixon | David Frost | disgwyl rhyddhad |
2009 | Underworld: Rise of the Lycans | Lucian | ffilmio |
The Damned United | Brian Clough | ' | |
2011 | Midnight in Paris | Paul | |
2015 | Far from the Madding Crowd | William Boldwood | |
2016 | Passengers | Arthur |
Blwyddyn | Teitl | Rôl | Nodiadau | |
---|---|---|---|---|
1993 | Gallowglass | Joe | ||
1998 | Lost in France | Owen | ||
2003 | The Deal | Tony Blair | ||
2004 | Dirty Filthy Love | Mark Furness | Nomineiddwyd - Actor Gorau BAFTA | |
2005 | The League of Gentlemen's Apocalypse | Jeremy Dyson | ||
2006 | Kenneth Williams: Fantabulosa! | Kenneth Williams | ||
2006 | HG Wells: War with the World | H. G. Wells | ||
2006 | Ancient Rome /The Battle for Rome | Nero | Cyfres deledu 6 rhan | |
2010 | The Special Relationship | Tony Blair | ||
2013 | Masters of Sex | Bill Masters |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Michael Sheen, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.