Instagram

Mae Instagram (a dalfyrrir yn gyffredin i IG neu Insta ) yn wasanaeth rhwydweithio cymdeithasol Americanaidd sydd yn galluogi ei ddefnyddwyr i rannu lluniau a fideos.

Instagram
Instagram
Enghraifft o'r canlynolgwasanaeth rhwydweithio cymdeithasol, gwefan, gwasanaeth cynnal delweddau, gwasanaeth cynnal fideos, cymuned arlein Edit this on Wikidata
CrëwrKevin Systrom, Mike Krieger Edit this on Wikidata
Iaithieithoedd lluosog Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi6 Hydref 2010 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu6 Hydref 2010 Edit this on Wikidata
PerchennogMeta Platforms Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintdan hawlfraint Edit this on Wikidata
SylfaenyddKevin Systrom, Mike Krieger Edit this on Wikidata
Rhiant sefydliadMeta Platforms Edit this on Wikidata
PencadlysSan Francisco Edit this on Wikidata
GwladwriaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
DosbarthyddMicrosoft Store, Google Play, App Store Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.instagram.com Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae'r gwasanaeth hwn yn eiddo i Facebook ac fe'i grewyd gan Kevin Systrom a Mike Krieger. Lansiwyd yn wreiddiol ar iOS ym mis Hydref 2010. Cyhoeddwyd y fersiwn Android ym mis Ebrill 2012, ac yna i ddilyn yn Nhachwedd 2012 cyhoeddwyd rhyngwyneb gwe â nodweddion cyfyngedig. Ym mis Mehefin 2014, daeth yr ap Fire OS, ac yna ap ar gyfer Windows 10 ym mis Hydref 2016. Mae'r ap yn caniatáu i ddefnyddwyr uwchlwytho cyfryngau y gellir eu golygu â hidlwyr a'u trefnu gan ddefnyddio hashnodau a thagio daearyddol. Gellir rhannu postiau yn gyhoeddus neu â dilynwyr sydd wedi eu cymeradwyo eisoes. Gall defnyddwyr bori cynnwys defnyddwyr eraill drwy ddefnyddio tagiau a lleoliadau a gweld cynnwys poblogaidd. Gall defnyddwyr hoffi lluniau a dilyn defnyddwyr eraill i ychwanegu cynnwys i'w ffrwd. Ymddengys fod y nodwedd hwn wedi dod i ben fis Medi 2020.

Yn wreiddiol, roedd Instagram yn adnabyddus am y nodwedd o fframio lluniau mewn cymhareb agwedd sgwar (1:1) yn unig gyda 640 picsel i gyd-fynd â lled sgrin iPhone ar y pryd. Yn 2015, cafodd y cyfyngiadau eu llacio, gan gynyddu swm y picseli i 1080. Ychwanegodd y gwasanaeth nodwedd anfon negeseuon yn ogystal â'r gallu i gynnwys nifer o lluniau o fideos mewn un post. Ychwanegwyd nodwedd Storiau - yn debyg iawn i'w brif wrthwynebydd sef Snapchat - sydd yn caniatáu i ddefnyddwyr bostio lluniau a fideos i'w ffrwd. Mae bob un post ar gael i eraill am 24 awr. Ym mis Ionawr 2019, cyfrifwyd bod y nodwedd Storiau yn cael ei ddefnyddio gan 500 miliwn o ddefnyddwyr yn ddyddiol.

Hanes

Ar ôl ei lansio yn 2010, daeth Instagram yn gynyddol boblogaidd, gyda miliwn o ddefnyddwyr wedi'u cofrestru o fewn dau fis, 10 miliwn mewn blwyddyn, a 1 biliwn ym Mehefin 2018. Yn Ebrill 2012, prynodd Facebook y gwasanaeth am oddeutu US $1 biliwn o arian parod a stoc. O fis Hydref 2015, roedd dros 40 biliwn o luniau wedi'u huwchlwytho. Er iddo gael ei ganmol am ei ddylanwad, mae Instagram wedi bod yn destun beirniadaeth, yn fwyaf arbennig am newidiadau polisi a rhyngwyneb, honiadau o sensoriaeth, a chynnwys anghyfreithlon neu amhriodol a uwchlwythwyd gan ddefnyddwyr.

Datblygwyd Instagram yn y lle cyntaf yn San Francisco fel Burbn, ap nodi lleoliad symudol a grëwyd gan Kevin Systrom a Mike Krieger. Gan sylweddoli bod Burbn yn rhy debyg i Foursquare, canolbwyntiodd Systrom a Krieger eu ap ar rannu lluniau, a oedd wedi dod yn nodwedd boblogaidd ymhlith defnyddwyr Burbn. Fe wnaethant ailenwi ap Instagram gan ddefnyddio cyfuniad o'r geiriau "instant camera" a "telegram".

Cyfeiriadau

Tags:

Rhwydweithio cymdeithasol

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Hob y Deri Dando (rhaglen)BricyllwyddenDisturbiaCristnogaethTŵr EiffelFfotograffiaeth erotigChampions of the EarthIndiaUndeb llafurBasbousaThe Wicked DarlingGemau Olympaidd ModernGalileo Galilei2006WiciY DdaearMean MachineCerrynt trydanolCalifforniaMuhammadSwedenWcráinIndienCharlie & BootsIeithoedd Indo-EwropeaiddTsunamiTîm pêl-droed cenedlaethol merched AwstraliaCREBBPCrefyddJohn Frankland RigbyHaikuRhestr o arfbeisiau hanesyddol CymruEtholiadau lleol Cymru 20221977JindabyneSinematograffyddShowdown in Little TokyoCorhwyadenDaearyddiaethUnol Daleithiau AmericaApat Dapat, Dapat ApatIncwm sylfaenol cyffredinolMaes Awyr PerthEgalitariaethPunch BrothersY Groesgad GyntafHinsawddEnrico CarusoSteve PrefontaineBizkaiaStygianSefydliad WicimediaUndeb Rygbi'r AlbanLumberton Township, New JerseyGweriniaeth Pobl TsieinaStar WarsFuerteventuraBarry JohnKurralla RajyamI am Number FourMaelströmFranz LisztCosmetigauCheerleader CampGlasoedDisgyrchiantTodos Somos NecesariosY DiliauTamocsiffenAnimeH. G. WellsY gosb eithaf🡆 More