Tudur Aled: Bardd

Roedd Tudur Aled (c.

1465 - c. 1525) yn fardd Cymraeg sy'n cael ei ystyried gan lawer yn un o'r mwyaf o Feirdd yr Uchelwyr. Ymddengys o'r marwnadau a ganwyd iddo gan feirdd eraill ei fod yn uchelwr ei hun.

Tudur Aled
Ganwyd1465 Edit this on Wikidata
Llansannan Edit this on Wikidata
Bu farw1525 Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Blodeuodd1480 Edit this on Wikidata
Tudur Aled: Bardd
Cofeb i Tudur Aled ac enwogion eraill o'r fro, yn Llansannan

Bywyd

Ganed y bardd ym mhlwyf Llansannan, yn awr yn Sir Ddinbych, ac ymddengys mai Robert oedd enw ei dad ac Ithel oedd enw ei daid. Ei athro barddol oedd ei ewythr, Dafydd ab Edmwnd. Roedd yn un o gomisiynwyr Eisteddfod gyntaf Caerwys yn 1523. Ei brif noddwyr oedd teulu Salbriaid Lleweni, gerllaw Llansannan, ond crwydrodd trwy Gymru yn canu i uchelwyr a gŵyr eglwysig, megis Dafydd ab Owain, Esgob Llanelwy. Roedd Syr Rhys ap Thomas, a fu farw yn 1525, yn un o'i noddwyr, a chan na chanodd Tudur Aled farwnad iddo, credir ei fod wedi marw tua'r un adeg. Bu farw yng Nghaerfyrddin, efallai ar ymweliad â Syr Rhys yn ei lys yno.

Cerddi

Roedd Tudur Aled yn fardd cynhyrchiol iawn ac yn feistr llwyr ar y gynghanedd a'r mesurau caeth. Cedwir o leiaf 125 o gywyddau ganddo, gyda chanran helaeth yn gerddi mawl. Roedd yn gwybod sut i ddefnyddio'r hen ddelweddau i'r dim ond arbrofai hefyd gyda delweddau a chyffelybiaethau newydd. Yn ogystal â'i werth llenyddol amlwg mae ei waith yn ddrych gwerthfawr i gyfnod o newid mawr ym mywyd Cymru.

Mae esgyll un o'i englynion wedi dod yn ddiarhebol:

    Hysbys y dengys y dyn
    O ba radd y bo'i wreiddyn.

Mawr fu'r golled ar ei ôl ymysg y beirdd. Canwyd marwnadau iddo gan Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan, Huw ap Dafydd ap Llywelyn ap Madog, Lewys Daron, Lewys Môn, Lewys Morgannwg, Morys Gethin, Raff ap Robert, Siôn ap Hywel ap Llywelyn Fychan, a Siôn Ceri.

Llyfryddiaeth

Cyhoeddwyd ei waith mewn dwy gyfrol:

Tags:

14651525BarddBeirdd yr UchelwyrMarwnad

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Elinor JonesEisteddfod Genedlaethol Cymru Aberdâr 1885Jak JonesAthaleiaFfilmUndduwiaethPont grogFfraincAlcemi2014Chandigarh Kare AashiquiRwmaniaOld HenryWest Ham United F.C.Adolf HitlerLlanfaglanLucy Thomas2024Ynys-y-bwlGernikaDewiniaeth CaosYsgol Glan ClwydBanerLlydawegYr EidalOrlando BloomSiarl III, brenin y Deyrnas UnedigY DiliauThe Public DomainXXXY (ffilm)PessachAngela 2Sodiwm cloridMaoaethPont Golden GateJapanBetty CampbellBonheur D'occasionLlundainPisoCarnosaurCathAneirinLlwyn mwyar duonTeganau rhyw.erSam TânEl NiñoKatwoman XxxAmanita'r gwybedReggaeWinslow Township, New JerseyCyfathrach Rywiol FronnolFietnamCyfrifiad y Deyrnas Unedig 2011BronnoethHanes MaliEagle EyeMoscfaHeledd CynwalNicotinBerfL'ultimo Treno Della NotteJohn AubreyThomas More2016Sioe gerddObras Maestras Del TerrorAffganistanParc Cenedlaethol Phong Nha-Ke Bang🡆 More