Tref yn nhalaith Bizkaia yng Nghymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg yw Gernika (Basgeg: Gernika, Sbaeneg: Guernica).
Gyda thref gyfagos Lumo ("Luno" yn Sbaeneg) mae'n ffurfio ardal ddinesig Gernika-Lumo, sydd â phoblogaeth o 17,050 (2023).
Math | bwrdeistref Sbaen |
---|---|
Prifddinas | Gernika-Lumo |
Poblogaeth | 17,050 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | José María Gorroño Echebarrieta |
Cylchfa amser | UTC+01:00 |
Gefeilldref/i | Pforzheim, Boise, Berga |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Basgeg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Q107556238 |
Sir | Busturialdea |
Gwlad | Gwlad y Basg Sbaen |
Arwynebedd | 8.6 km² |
Uwch y môr | 10 ±1 metr |
Yn ffinio gyda | Ajangiz, Arratzu, Errigoiti, Forua, Kortezubi, Muxika |
Cyfesurynnau | 43.3169°N 2.6767°W |
Cod post | 48300 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | maer Guernica y Lumo |
Pennaeth y Llywodraeth | José María Gorroño Echebarrieta |
Mae Gernika o bwysigrwydd mawr yn hanes Gwlad y Basg, oherwydd y cyfarfodydd a gynhelid dan dderwen Gernika, a elwid y Gernikako Arbola. Daeth y cyfarfodydd hyn yn symbol o hawliau traddodiadol Gwlad y Basg. Ar 26 Ebrill, 1937, bomiwyd Gernika gan awyrennau Almaenig oedd yn ymladd dros Fransisco Franco yn Rhyfel Cartref Sbaen. Dyma oedd un o ymosodiadau cyntaf Luftwaffe yr Almaen Natsiaidd. Disgrifiwyd yr ymosodiad gan Winston Churchill fel "an experimental horror". I gofio'r ymosodiad, codwyd Amgueddfa Heddwch yn y ddinas.
Ysbrydolodd hyn ddarlun enwog Pablo Picasso: Guernica (llun).
Sefydlwyd Gernika gan yr Iarll Tello ar 28 Ebrill 1366 ar groesffordd bwysig; y ffordd rhwng Bermeo a Durango ar y naill law a'r ffordd rhwng Bilbao ac Elantxobe ar y llall. Mae pwysigrwydd y lleoliad hefyd yn y ffaith ei fod ar lan afon ble angorai llongau ym mhorthladd Suso.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Gernika, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.