Rhyfel Cartref Sbaen

Ystyrir Rhyfel Cartref Sbaen (17 Gorffennaf 1936 - 1 Ebrill 1939) yn fath o ragarweiniad i'r Ail Ryfel Byd, gan iddo roi cyfle i'r Almaen, Yr Eidal a'r Undeb Sofietaidd brofi eu harfau.

Rhyfel Cartref Sbaen
Map o Sbaen yn dangos y sefyllfa yn Awst a Medi 1936. Y rhannau glas yw'r rhan o'r wlad oedd ym meddiant y cenedlaetholwyr ar y dechrau, y rhannau gwyrdd y darnau a enillwyd ganddynt, a'r rhannau coch y rhan o Sbaen oedd ym meddiant y llywodraeth weriniaethol.

Ar y 12 Gorffennaf 1936, llofruddiwyd un o wyr y chwith, José Castillo gan y Ffalangiaid. Y diwrnod wedyn dialodd y chwith am hyn trwy ladd José Calvo Sotelo, arweinydd yr wrthblaid. Yn dilyn hyn ceisiodd grŵp o swyddogion y fyddin gipio grym.

Y prif arweinwyr ymhlith y swyddogion a geisiodd gipio grym oedd José Sanjurjo, Emilio Mola a Francisco Franco. José Sanjurjo oedd wedi ei fwriadu fel yr arweinydd, ond fe'i lladdwyd mewn damwain awyren wrth hedfan o Bortiwgal i Sbaen, a daeth Franco yn arweinydd. Ar yr ochr arall, Arlywydd y Weriniaeth am y rhan fwyaf o'r rhyfel oedd Manuel Azaña, rhyddfrydwr gwrth-glerigol. Yr arweinwyr eraill oedd Francisco Largo Caballero ac yna o fis Mai 1937 ymlaen Juan Negrín, y ddau yn sosialwyr.

Cynlluniwyd ymdrech swyddogion y fyddin ym Morocco. Ar fore'r 17eg o Orffennaf, dechreuasant trwy gipio Melilla. Llwyddasant i gipio rhan o Sbaen yn syth (gweler y map) ond llwyddodd y llywodraeth i ffurfio grwpiau milisia i ymladd trostynt. Roedd y grwpiau yma yn cynnwys sosialwyr, comiwnyddion ac anarchwyr ymhlith eraill. Cyfeirir at y grwpiau oedd yn ymladd dros y llywodraeth fel y Gweriniaethwyr. Cyfeirir at y grwpiau adain-dde oedd yn cefnogi ymdrech Franco a'i gyd-swyddogion fel y Cenedlaetholwyr, ac roedd y rhain yn cynnwys y Ffalangiaid ac eraill.

Tair mlynedd o ryfela

Parhaodd yr ymladd am dair blynedd. Cafodd y cenedlaetholwyr gymorth gan yr Almaen a'r Eidal, tra cafodd y gweriniaethwyr gymorth gan yr Undeb Sofietaidd. Arhosodd y Deyrnas Unedig a Ffrainc yn niwtral, ond ymladdodd cryn nifer o'u dinasyddion dros y weriniaeth fel gwirfoddolwyr yn y Brigadau Rhyngwladol, yn eu plith nifer o Gymry.

Ymhlith erchyllderau y rhyfel, un o'r enwocaf oedd bomio dinas Guernica gan awyrennau yr Almaen, a goffhawyd gan Pablo Picasso yn ei ddarlun o'r un enw. Yn nyddiau cyntaf y rhyfel saethwyd tua 50,000 o bobl oherwydd iddynt gael eu dal yn y rhan o'r wlad oedd ym meddiant eu gwrthwynebwyr gwleidyddol. Yn eu plith yr oedd y bardd a'r dramodydd Federico García Lorca a saethwyd gan y Ffalangwyr yn Granada.

Yn y rhannau oedd yn perthyn i'r weriniaeth, yn enwedig lle'r oedd yr anarchwyr mewn grym, megis Aragón a Catalonia, newidiwyd dull byw merched Sbaen yn sylweddol iawn.

Yn y diwedd llwyddodd y cenedlaetholwyr i goncro'r gweddill o Sbaen, er i'r gweriniaethwyr ymladd yn ffyrnig. Credir i tua 500,000 o bobl gael eu lladd yn y rhyfel. Daeth Franco i rym, a rheolodd Sbaen tan ei farwolaeth.

Cymru a'r Rhyfel

Dan arweiniad Ffederasiwn Glowyr De Cymru, a'r Blaid Gomiwnyddol, cafwyd cefnogaeth yng Nghymru at Lywodraeth Weriniaethol etholedig y ffrynt Boblogaidd yn Sbaen ar ôl i fyddin Franco ymosod ar y llywodraeth honno. Ymunodd 174 o Gymry â byddin y weriniaeth ac un yn unig dros Franco. O Rhondda Cynon Taf y deuai'r rhan fwyaf, ardal lofaol, a daeth nifer hefyd o ardal lofaol Gogledd Cymru ac o gefn gwlad. Lladdwyd 33 ohonynt. Roedd y chwerwder a ddilynodd Streic Gyffredinol y Deyrnas Unedig 1926 a'u cefndir Comiwnyddol neu Sosialaidd yn gryf yn y dynion hyn, a gallent gyd-deimlo â dymuniad y gweriniaethwyr i ddileu yr anghyfartaledd rhwng dosbarth gweithiol a dosbarth uwch y tirfeddiannwyr a'r perchnogion ariannog.

Yn dilyn arweiniad David Lloyd George ac academyddion prifysgolion, sefydlwyd cymdeithasau i groesawu blant ffoaduriaid o Wlad y Basg. Yn wahanol i'r rhan fwyaf o Gymru, fodd bynnag, gyda Franco yr ochrai Saunders Lewis.

Cyfeiriadau

Tags:

1 Ebrill17 Gorffennaf19361939Ail Ryfel BydAlmaenUndeb SofietaiddYr Eidal

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Albert Evans-JonesPrwsiaMaleisiaMET-ArtBrenhiniaeth gyfansoddiadolMervyn KingRhestr mynyddoedd CymruDewiniaeth CaosNottinghamRichard Richards (AS Meirionnydd)Economi CymruY CeltiaidThe FatherCefnfor yr IweryddPort TalbotMahanaDonostiaBetsi CadwaladrYsgol Dyffryn AmanSue RoderickAmericaLliniaru meintiolCrai KrasnoyarskGorllewin SussexBanc LloegrMeilir GwyneddCeredigionIncwm sylfaenol cyffredinolNorthern SoulHafanSGwyddbwyllTsunamiBeti GeorgeMôr-wennol2006Hanes economaidd CymruDewi Myrddin HughesLlundainThe Next Three DaysCyfnodolyn academaiddRhywiaethFfilm llawn cyffroMynyddoedd Altai13 AwstPatxi Xabier Lezama PerierOblast MoscfaAnna MarekSiôr II, brenin Prydain FawrLene Theil SkovgaardHentai KamenKumbh MelaAmaeth yng NghymruElectricityHenoDmitry KoldunAmgylcheddTverAvignonDiwydiant rhywNational Library of the Czech RepublicBilboSwydd AmwythigRhyddfrydiaeth economaidd🡆 More