Un o organau'r system dreulio mewn pobl ac anifeiliaid yw'r anws (o'r Lladin anus (cylch), drwy'r Saesneg).
Agorfa ar ben ôl y llwybr ymborth ydyw, a'i bwrpas yw ysgarthu, sef allwthio o'r corff y gwastraff lled-solet a gynhyrchir wrth dreulio bwyd. Gall ysgarthion, yn dibynnu ar yr anifail, gynnwys mater anhreuliadwy megis esgyrn, olion bwyd megis seliwlos neu lignin wedi i'r corff dynnu'r holl faetholion ohono, tocsinau, ac endosymbiontiaid meirw neu ormodol megis bacteria'r stumog a'r coluddyn.
1: Y geg 2: Taflod 3: Tafod bach 4: Tafod 5: Dannedd 6: Chwarennau poer 7: Isdafodol 8: Isfandiblaidd 9: Parotid 10: Argeg (ffaryncs) 11: Sefnig (esoffagws) 12: Iau (Afu) 13: Coden fustl 14: Prif ddwythell y bustl 15: Stumog | 16: Cefndedyn (pancreas) 17: Dwythell bancreatig 18: Coluddyn bach 19: Dwodenwm 20: Coluddyn gwag (jejwnwm) 21: Glasgoluddyn (ilëwm) 22: Coluddyn crog 23: Coluddyn mawr 24: Colon trawslin 25: Colon esgynnol 26: Coluddyn dall (caecwm) 27: Colon disgynnol 28: Colon crwm 29: Rhefr: rectwm 30: Rhefr: anws |
Un agen yn unig, a elwir cloaca, sydd gan amffibiaid, ymlusgiaid, ac adar ar gyfer troethi ac ysgarthu, cyfathrach rywiol, a dodwy. Cloaca sydd hefyd gan famaliaid yr urdd Monotremata (yr hwyatbig a theulu'r ecidna), nodwedd o bosib a etifeddir gan yr amniotau cynharaf drwy linach y therapsidau. Medda'r bolgodogion ar un twll ar gyfer ysgarthu baw a throeth, a gwain ar wahân gan y fenyw ar gyfer atgenhedlu (cyplu â'r gwryw ac esgor ar epil). Yn achos y mamaliaid hynny sy'n cario'r ffetws yn y groth ac yn ei fwydo drwy'r brych, mae'r fenyw yn meddu ar dair agen wahanol ar gyfer ysgarthu (anws), troethi (wrethra), ac atgenhedlu (gwain), a'r gwryw yn meddu ar anws i ysgarthu ac wrethra a chanddi dwy biben ar wahân i droethi ac alldaflu.
Cam pwysig yn esblygiad anifeiliaid amlgellog oedd datblygiad yr anws. Ymddengys iddo ddigwydd dwywaith, yn esblygiad y Protostomia a'r Deuterostomia fel ei gilydd.
Bioleg | Anatomeg | System dreulio |
Ceg | Ffaryncs | Oesoffagws | Stumog | Cefndedyn | Coden fustl | Afu | Dwodenwm | Coluddyn gwag | Ilëwm | Coluddyn mawr | Caecwm | Rectwm | Anws |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Anws, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.