Ystyr y gair marwnad yn llenyddiaeth Gymraeg yw 'galargan, cerdd yn mynegi galar am berson marw' (marw 'marwolaeth' + nad 'cri, llef').
Cytras yw'r gair Llydaweg marvnad a'r Hen Wyddeleg marbnad. Er y gellir ei ddefnyddio i gyfieithu'r gair Saesneg elegy neu lament, mae'n ffurf arbennig yn y Traddodiad Barddol Cymraeg.
Mae'n ffurf lenyddol hen iawn, ac yn deillio yn ôl pob tebyg o swyddogaeth y beirdd Celtaidd. Ceir sawl ffurf, e.e. 'awdl farwnad', 'cywydd marwnad', 'englynion marwnad', ac ati. Mae'n perthyn i'r canu mawl neu foliant. Ceir nifer o enghreifftiau yng ngwaith Beirdd y Tywysogion a Beirdd yr Uchelwyr.
Gellid canu marwnad i anifail hefyd. Mae gan y bardd enwog Cynddelw Brydydd Mawr 'Farwnad i'w geiliog ei hun', er enghraifft. Yn ddiweddarach roedd rhai o'r cywyddwyr yn hoff o gael tipyn o hwyl ar draul cyd-fardd trwy ganu marwnad ffug ddoniol iddo. Ond ceir sawl enghraifft o farwnadau go-iawn i fardd marw yn ogystal, e.e. gan Cynddelw eto i Fleddyn Fardd.
Mae'r hen bennill hwn yn enghraifft o fardd a'i dafod yn ei foch:
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Marwnad, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.