Math arbennig o gerdd a geir yng nghanu Beirdd y Tywysogion yw'r farwysgafn.
Ystyr y gair marwysgafn yw 'cân ar wely angau' (marw + ysgafn o'r gair Lladin scamnum sef 'mainc'). Roedd yn gerdd o gyffes gan y bardd cyn iddo farw. Ceir cerddi tebyg yn Iwerddon hefyd.
Ceir yr enghraifft gynharaf sydd ar glawr gan Meilyr Brydydd, a gyfansoddwyd rywbryd ar ôl 1137, ond mae'n amlwg fod y genre yn hŷn na hynny. Ceir enghreifftiau diweddarach gan Cynddelw Brydydd Mawr a Bleddyn Fardd yn ogystal.
Cyffesu pechodau a gofyn maddeuant yw hanfod y cerddi hyn. Mae'r beirdd yn cyfarch Duw yn yr un termau a gyda'r un ymadroddion ag y byddent yn cyfarch arglwyddi a thywysogion. Ym marwysgafn Meilyr Brydydd mae'r bardd yn cloi trwy ofyn am orffwysfa ymhlith y saint ar Ynys Enlli.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Marwysgafn, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.