Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Casnewydd, Cymru, yw Caerllion, hefyd Caerllion-ar-Wysg (Saesneg: Caerleon).
Saif ar lannau gorllewinol Afon Wysg, ger dinas Casnewydd. Ystyr Caerllion ydy 'caer y llengoedd'.
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Casnewydd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.615°N 2.959°W |
Cod SYG | W04000813 |
Cod OS | ST336909 |
Cod post | NP18 |
Yn y cyfnod Rhufeinig, fel Isca Silurum, roedd Caerllion yn ganolfan i'r lleng Legio II Augusta. Symudodd y lleng i Gaerllion tua'r flwyddyn 74, a bu yma am ganrifoedd, efallai tan ddechrau'r 4g. Mae'r olion o'r cyfnod yma yn parhau i fod yn nodwedd amlycaf Caerllion. Ymhlith yr olion mae olion barics y llengfilwyr, y baddondy, y muriau oedd yn amgylchynu'r gaer, a'r amffitheatr tu allan i'r muriau. Enw Rhufeinig ar y dref oedd 'Iskalis' a ddaeth o enw'r afon: Wysg.
Yn yr Historia Regum Britanniae gan Sieffre o Fynwy, Caerllion yw prifddinas y Brenin Arthur.
Tua dwy neu dair km i'r gogledd-orllewin saif Mwnt y Castell, sef hen domen mwnt a beili.
Roedd Caerllion yn leoliad i Coleg Hyfforddi Sir Fynwy a sefydlwyd yn 1914. Roedd y Coleg yn hyfforddi dynion i ddod yn athrawon. Yn 1962 agorwyd y Coleg ar gyfer myfyrwyr benywaidd. Yn 1975 daeth y Coleg yn rhan o Goleg Addysg Uwcg Gwent, ac wedi hynny, yn rhan o Brifysgol De Cymru.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:
Dinas
Casnewydd
Pentrefi
Allteuryn · Basaleg · Caerllion · Langstone · Llanfaches · Llanfihangel-y-fedw · Llansanffraid Gwynllŵg · Llan-wern · Pen-hŵ · Y Redwig · Trefesgob · Trefonnen · Tŷ-du
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Caerllion, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.