Gwasg Prifysgol Cymru yw prif gyhoeddwyr academaidd Cymru ac un o'r gweisg mwyaf blaenllaw yn y byd academaidd Celtaidd.
Cafodd 'Bwrdd Gwasg Prifysgol Cymru' ei sefydlu yn 1922 fel un o fyrddau canolog Prifysgol Cymru (gyda'r Bwrdd Academaidd a'r Bwrdd Gwybodau Celtaidd).
Enghraifft o'r canlynol | gwasg prifysgol, cyhoeddwr |
---|---|
Rhan o | y fasnach lyfrau yng Nghymru |
Dechrau/Sefydlu | 1922 |
Gweithredwr | Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan |
Aelod o'r canlynol | Association of Learned and Professional Society Publishers |
Rhiant sefydliad | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant |
Pencadlys | Caerdydd |
Enw brodorol | Gwasg Prifysgol Cymru |
Gwefan | https://www.uwp.co.uk/ |
Mae'r Wasg yn cyhoeddi yn y Gymraeg a'r Saesneg ac wedi gwneud cyfraniad arbennig i ddiwylliant Cymru dros y blynyddoedd, yn arbennig ym meysydd cyhoeddiadau ar hanes Cymru, yr iaith Gymraeg a llenyddiaeth Gymraeg. Ymhlith ei chyhoeddiadau pwysicaf mae Geiriadur Prifysgol Cymru. Mae'r wasg yn cyhoeddi tua 60 o lyfrau academaidd bob blwyddyn.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Gwasg Prifysgol Cymru, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.