Roedd Dafydd ap Gruffudd (c.
11 Gorffennaf (?) 1238 – 3 Hydref 1283), Arglwydd Dyffryn Clwyd, yn Dywysog Cymru o Ragfyr 1282 hyd 1283, yn dilyn marwolaeth ei frawd Llywelyn ap Gruffudd. Ef oedd yr olaf o frenhinoedd a thywysogion Gwynedd, er mai ei frawd Llywelyn a gafodd y teitl Ein Llyw Olaf.
Dafydd ap Gruffudd | |
---|---|
Ganwyd | 11 Gorffennaf 1238 Gwynedd |
Bu farw | 3 Hydref 1283, 1283 Amwythig |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | teyrn, pendefig |
Swydd | tywysog |
Tad | Gruffudd ap Llywelyn Fawr |
Mam | Senana |
Priod | Elizabeth Ferrers |
Plant | Owain ap Dafydd, Llywelyn ap Dafydd, Gwladys ferch Dafydd ap Gruffudd, Dafydd Goch |
Llinach | Llinach Aberffraw |
Roedd Dafydd yn fab i Gruffudd ap Llywelyn Fawr a'i wraig Senana, ac felly'n wŷr i Llywelyn Fawr. Y trydydd o bedwar mab oedd Dafydd. Yn 1241 cofnodir iddo ef a'i frawd iau Rhodri gael eu rhoi'n wystlon i'r brenin Harri III o Loegr fel rhan o gytundeb.Yn 1253 cofnodir iddo gael ei alw i dalu gwrogaeth i Harri III.
Yn 1255 ymunodd â'i frawd Owain yn erbyn Llywelyn, ond cawsant eu gorchfygu ganddo ym Mrwydr Bryn Derwin. Carcharwyd Dafydd, ond rhyddhaodd Llywelyn ef y flwyddyn ddilynol a'i adfer i'w lys. Yn 1263 ymunodd â Harri III mewn ymgyrch yn erbyn Llywelyn. Wedi i Lywelyn gael ei gydnabod gan Harri fel Tywysog Cymru yn ôl Cytundeb Trefaldwyn yn 1267, adferwyd Dafydd i ffafr Llywelyn eto, ond yn 1274 ymunodd â'r brenin Edward I, brenin Lloegr mewn ymgyrch arall yn erbyn Llywelyn. Priododd ag Elizabeth Ferrers, merch William de Ferrers, Iarll Derby a pherthynas pell i'r brenin.
Roedd Dafydd wedi cael addewid am diroedd yng ngogledd Cymru gan Edward yn dâl am ei gymorth, ond ni chafodd y cyfan a addawyd iddo. Ar Sul y Blodau (21 Mawrth 1282) ymosododd Dafydd ar Benarlâg, gan ddechrau'r rhyfel a roes derfyn ar deyrnas Gwynedd. Roedd i Dafydd ei hun ran amlwg yn y rhyfel, a phan laddwyd Llywelyn mewn ysgarmes yng Nghilmeri ddiwedd y flwyddyn honno cyhoeddwyd Dafydd yn dywysog yn ei le. Nid oedd yr un gefnogaeth i Dafydd ag i Lywelyn, ond llwyddodd i gadw Castell Dolwyddelan am gyfnod. Wedi i'r castell yma syrthio i fyddin Edward ar 18 Ionawr 1283, enciliodd Dafydd i Gastell y Bere, lle bu byddin o dros 3,000 o wŷr yn gwarchae arno. Bu raid i'r garsiwn bychan ildio ar 25 Ebrill ond llwyddodd Dafydd i ddianc i Gastell Dolbadarn, cyn gorfod chwilio am loches yn y mynyddoedd. Ymddengys iddo gael ei fradychu gan rai o'i wyr ei hun, a chymerwyd ef yn garcharor ar lethrau Cader Idris.
Ar 28 Mehefin 1283 galwodd Edward I senedd i gyfarfod yn Amwythig i farnu Dafydd. Ar 30 Medi dedfrydwyd ef i farwolaeth am deyrnfradwriaeth, oherwydd ei fod wedi torri cytundebau a wnaeth â'r brenin.
Llusgwyd trwy strydoedd Shrewsbury gan geffyl. Crogwyd, adfywiyd adiberfeddwyd. Taflwyd ei berfeddau i'r tân wrth iddo wylio. Torrwyd ei ben i ffwrdd a'i roi ar bigyn Twr llundain nesaf at ei frawd Llywelyn. Torrwyd ei gorff mewn i chwarteri.
Mae rhai yn credu mai ef oedd y cyntaf i ddioddef y math yma o ddienyddiad erchyll yn gosb am deyrnfradwriaeth, a ddaeth yn gyffredin dan gyfraith Lloegr yn y canrifoedd nesaf.
Gyrrwyd ei ferch Gwladys, i leiandy yn Sixhills, Swydd Lincoln, lle bu farw yn 1336, tra charcharwyd ei feibion bychain Llywelyn ac Owain yng Nghastell Bryste. Cawsant yr un driniaeth ag etifeddion Llywelyn Ein Llyw Olaf felly, gyda'r bwriad gan Edward I o ddileu Teulu Gwynedd am byth. Yn ôl rhai o'r achau Cymreig, goroesodd ei fab perth a llwyn, Dafydd Goch, a bu ei ddisgynyddion yn byw yn Nant Conwy am sawl cenhedlaeth.
Llywelyn Fawr 1173-1240 | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Gruffudd ap Llywelyn Fawr 1200-1244 | Dafydd ap Llywelyn 1215-1246 | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Owain Goch ap Gruffydd d. 1282 | Llywelyn ap Gruffudd (Llywelyn yr Ail) 1223-1282 | Dafydd ap Gruffydd 1238-1283 | Rhodri ap Gruffudd 1230-1315 | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Y Dywysoges Gwenllian 1282-1337 | Llywelyn ap Dafydd 1267-1287 | Owain ap Dafydd 1265-1325 | Gwladys (m. 1336 yn Sixhills) | Tomas ap Rhodri 1300-1363 | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Owain Lawgoch 1330-1378 | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
O'i flaen : Llywelyn ap Gruffydd | Tywysogion Gwynedd | Olynydd : --- |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Dafydd ap Gruffudd, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.