Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru.
Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). Sefydlwyd y Cynulliad ym 1999 ar ôl cynnal refferendwm ym 1997.
Senedd Cymru Welsh Parliament | |
---|---|
Y Chweched Senedd | |
Gwybodaeth gyffredinol | |
Math | Unsiambraeth |
Arweinyddiaeth | |
Y Llywydd | Elin Jones, Plaid Cymru |
Y Dirprwy Lywydd | David Rees, Llafur |
Y Trefnydd | Jane Hutt, Llafur |
Prif Weinidog Cymru | Vaughan Gething, Llafur |
Arweinyddion yr Wrthbleidiau | Andrew R. T. Davies (Ceidwadwyr), Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru), Jane Dodds (Democratiaid Rhyddfrydol) |
Y Clerc | Manon Antoniazzi |
Cyfansoddiad | |
Aelodau | 60 |
Grwpiau gwleidyddol | Llywodraeth (30)
Gwrthbleidiau (30)
|
Pwyllgorau |
|
Etholiadau | |
Etholiad diwethaf | 6 Mai 2021 |
Etholiad nesaf | 7 Mai 2026 |
Man cyfarfod | |
Y Senedd, Bae Caerdydd | |
Gwefan | |
senedd.cymru |
Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres: |
Cymru o fewn y DU Cymru o fewn yr UE Gweithgarwch gwleidyddol |
|
Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
Ceir 60 o aelodau, neu 'Aelodau o'r Senedd' (AS) a etholir (ers 2011) am dymor o bum mlynedd; mae 40 ohonynt yn cynrychioli etholaeth ddaearyddol ac 20 yn cael eu hethol dan drefn cynrychiolaeth gyfrannol dull D'Hondt dros y pum etholaeth ranbarthol yng Nghymru. Mae'n system unsiambr, hynny yw, nid oes 'ail siambr' i ddeddfwrfa Cymru.
Ffurfiwyd y Cynulliad Cenedlaethol yn dilyn Deddf Llywodraeth Cymru 1998, a oedd yn ymateb i Refferendwm datganoli i Gymru, 1997. Mae'r Senedd a Llywodraeth Cymru yn ddau gorff ar wahân - yr un fath â Senedd y Deyrnas Unedig a Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Y corff democrataidd sy'n cynrychioli buddiannau Cymru a'i phobl, sy'n llunio cyfreithiau Cymru ac sy'n gwneud Llywodraeth Cymru'n atebol yw Senedd Cymru.
Yr enw ar gorff corfforaethol Senedd Cymru yw Comisiwn y Senedd.
Mae aelodau yn cael eu hethol am dymor penodedig. Pedair blynedd oedd y tymor gwreiddiol, ond yn sgil deddfwriaeth yn San Steffan i greu Seneddau o 5 mlynedd ymestynnwyd cyfnod y Senedd i bum mlynedd. Cynhaliwyd etholiadau ym 1999, 2003, 2007, 2011, 2016 a 2021. Cynhelir is-etholiadau os oes sedd etholaeth leol o'r Senedd yn dod yn wag, ond os oes gwagle ar y rhestr ranbarthol bydd pleidiau gwleidyddol yn enwebu'r unigolyn nesaf ar y rhestr i ymuno â'r Senedd.
Ar 27 Tachwedd 2019 pasiwyd deddf, sef y Ddeddf Senedd ac Etholiadau, i roi'r bleidlais i bobl 16 oed, yn dechrau o etholiadau Senedd 2021. Yn ogystal, cafodd preswylwyr o dramor sy'n byw yng Nghymru hawl i bleidleisio. Adeg y bleidlais ar y ddeddf, roedd 41 o 60 aelod o blaid y newid gyda Llafur a Phlaid Cymru o blaid a'r Ceidwadwyr a Phlaid Brexit yn erbyn. Roedd y ddeddf hefyd yn rhoi enw newydd dwyieithog i'r Cynulliad fel yr oedd, sef Senedd Cymru a Welsh Parliament, er gwaethaf ymgyrchu i gael enw uniaith Gymraeg ar y sefydliad. Yn ymarferol, er bod enw dwyieithog ar y sefydliad, tueddir i'w alw'n Senedd yn y ddwy iaith.
Gweler Pwerau Senedd Cymru am ragor o fanylion.
Cafodd grymoedd i basio mesurau deddfwriaethol o fewn meysydd penodol eu rhoi ar ddechrau'r Trydydd Cynulliad ym mis Mai 2007 dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
Ar 3 Mawrth 2011, cynhaliwyd refferendwm i benderfynu a ddylai'r Cynulliad gael y pwer y lunio ei ddeddfau ei hun. Pleidleisiodd pobl Cymru o blaid y cynnig. Ers 2017, defnyddir model cadw pwerau yn ôl, ac mae gan y Senedd yr hawl i ddeddfu mewn unrhyw faes sydd heb ei eithrio.
Plaid | Etholiad 2021 | Presennol | |
Llafur | 30 | 30 | |
Ceidwadwyr | 16 | 16 | |
Plaid Cymru | 13 | 13 | |
Democratiaid Rhyddfrydol | 1 | 1 | |
Seddi eu hangen ar gyfer mwyafrif un plaid | 1 | 1 | |
Mwyafrif y Llywodraeth | 0 | 0 |
Plaid | Etholiad 2016 | Yn union cyn etholiad 2021 | |
Llafur | 29 | 29 | |
Ceidwadwyr | 12 | 10 | |
Plaid Cymru | 12 | 10 | |
UKIP | 7 | 1 | |
Democratiaid Rhyddfrydol | 1 | 1 | |
Propel | 0 | 1 | |
Plaid Diddymu Cynulliad Cymru | 0 | 2 | |
Annibynnol | 0 | 6 | |
Seddi eu hangen ar gyfer mwyafrif un plaid | 2 | 0 | |
Mwyafrif y Llywodraeth | 0 | 2 |
Plaid | Mai 2011 | |
---|---|---|
Llafur | 30 | |
Y Ceidwadwyr | 14 | |
Plaid Cymru | 11 | |
Y Democratiaid Rhyddfrydol | 5 | |
Annibynnol | 0 |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Senedd Cymru, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.