Mae gwleidyddiaeth Cymru yn cynnwys llywodraeth cenedlaethol datganoledig sef Senedd Cymru ac mae'r wlad hefyd yn cael ei llywodraethu gan Senedd y Deyrnas Unedig.
Rheolir llywodraeth leol yng Nghymru gan awdurod unedol.
Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres: |
Cymru o fewn y DU Cymru o fewn yr UE Gweithgarwch gwleidyddol |
|
Mae Cymru yn wlad sydd yn rhan o'r Deyrnas Unedig (DU). Mae'r DU yn frenhiniaeth seneddol ddemocrataidd. Llywodraethir Cymru gan system Model Cadw Pwerau, lle restrir holl faterion dan reloaeth Senedd y DU, gyda'r gweddill o dan reolaeth Senedd Cymru. Mae Cymru yn ethol 40 aelod i Senedd y DU.
Mae Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn cefnogi Ysgrifennydd Cymru ac Is-Ysgrifenyddion Gwladol Seneddol gan gynrychioli Llywodraeth y DU yng Nghymru ac yn cynrychioli Cymru yn Llywodraeth y DU.
Rheolir llywodraeth leol yng Nghymru gan 22 o awdurdodau unedol.
Mae Senedd Cymru yn gorff etholedig sy'n cynrychioli Cymru a’i phobl ac yn deddfu ar gyfer Cymru ac yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.
Cafodd y Senedd ei sefydlu yn 1997 ar ôl refferendwm datganoli i Gymru. Hyd at 2020, cydnabyddwyd fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru, cyn y newid enw i Senedd Cymru. Mae gan y Senedd 60 o aelodau, ond mae cynlluliau i gynyddu hyn i 96. Ar hyn o bryd mae 30 aelod Llafur Cymru, 16 aelod Ceidwadwyr Cymreig, 12 aelod Plaid Cymru, 1 o’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ac 1 annibynnol. Bydd etholiad nesaf Senedd Cymru ar Fai 7, 2026.
Rhestr Wicidata:
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Gwleidyddiaeth Cymru, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.