Gwas sifil yw Dr Manon Antoniazzi (ganwyd 15 Ebrill 1965) sydd yn Brif Weithredwr a Chlerc Cynulliad Cenedlaethol Cymru ers Ebrill 2017.
Manon Antoniazzi | |
---|---|
Ganwyd | 15 Ebrill 1965 Caerdydd |
Man preswyl | Caerdydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Addysg | Doethur mewn Athrawiaeth |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwas sifil |
Cyflogwr |
Ganwyd Manon Jenkins yn ferch i Emyr Jenkins, cyn drefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae'n chwaer hŷn i Ffion Hague. Aeth i Goleg Sant Ioan, Caergrawnt ac yna Coleg yr Iesu, Rhydychen. Wedi graddio aeth ymlaen i wneud PhD ar Gerddi Proffwydol Canolesol Cymreig.
Roedd ei swydd gyntaf gyda Dŵr Cymru yn ysgrifennu polisîau dwyieithog. Rhwng Gorffennaf 1991 a Rhagfyr 1993 bu'n gweithio fel Pennaeth y Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus yn S4C. Yn 1994 daeth yn Ysgrifennydd Preifat y Tywysog Siarl a chyfrifoldeb dros Gymru. Yn 1999 symudodd yn ôl i Gymru gan weithio yn adran gyfathrebu Cynulliad Cenedlaethol, corff oedd newydd ei sefydlu. Ymunodd â BBC Cymru yn Medi 2000 fel Ysgrifennydd a Phennaeth Materion Cyhoeddus ac yna Pennaeth Materion Cyhoeddus, Gwledydd a Rhanbarthau yn 2003.
Dychwelodd i swydd Ysgrifennydd Preifat y Tywysog Siarl rhwng Rhagfyr 2004 a Gorffennaf 2012. Aeth ymlaen i swydd Prif Weithredwr Croeso Cymru. O Ebrill 2017 dilynodd Claire Clancy fel Prif Weithredwr a Chlerc Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Priododd John Antoniazzi yn 2014 ac mae'r ddau yn byw yng Nghaerdydd. Mae ganddi ferch, Indeg.
Cynulliad Cenedlaethol Cymru | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Claire Clancy | Prif Weithredwr a Chlerc Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2017–presennol | Olynydd: deiliad |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Manon Antoniazzi, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.