Dŵr Cymru: Cwmni cyfyngedig a gofrestrwyd yng nghymru

Cwmni nid-er-elw ydy Dŵr Cymru (Saesneg: Welsh Water), sy'n cyflenwi'r mwyafrif helaeth o ddŵr yfed a gwasanaethau dŵr gwastraff yng Nghymru, a hefyd i rannau o orllewin Lloegr.

Mae'n cael ei reoleiddio dan Ddeddf Diwydiant Dŵr 1991 a addaswyd dan Ddeddf Dŵr 2014.

Dŵr Cymru Welsh Water
Math o fusnes
Cwmni cyfyngedig
DiwydiantGwasanaeth Cyhoeddus
Sefydlwyd1989
PencadlysNelson, Caerffili
Pobl allweddol
Chris Jones
Gweithwyr
3,000
Rhiant-gwmniGlas Cymru Ltd.
www.dwrcymru.com
    Mae Glas Cymru yn ailgyfeirio i'r dudalen hon.

Hanes

Sefydlwyd Dŵr Cymru yn 1989 ar ôl i'r gwasanaethau dŵr yng ngwledydd Prydain gael eu preifateiddio. Heddiw mae'n eiddo Glas Cymru, 'cwmni cyfyngedig trwy warant' dielw a sefydlwyd yn unswydd er mwyn prynu a rhedeg Dŵr Cymru. Dydy Glas Cymru ddim yn rhedeg unrhyw gwmni na menter arall.

Bu'r cwmni yn darged i brotestiadau yng Nghymru yn erbyn ei gynllun dadleuol i droi safle Brodordy Llan-faes ar Ynys Môn, lle claddwyd y Dywysoges Siwan yn 1237, yn waith carthffosiaeth. Gwrthododd Cadw gefnogi'r protestiadau a gweithredwyd y cynllun.

Ailenwyd y cwmni yn Hyder yn 1996 ar ôl iddo gymryd drosodd y cwmni trydan SWALEC (yn ne Cymru) a daeth yn gwmni dŵr a thrydan.

Fodd bynnag, in 1999/2000, oherwydd y dreth newydd ar elw cwmnïau iwtiliti ac adolygiad prisiau Ofwat yn 1999, aeth Hyder i drafferthion ariannol a arweiniodd iddo dorri i fyny ar ôl brwydr am ei feddiant. Prynodd Western Power Distribution gwmni Hyder ar y 15fed o Fedi 2000 er mwyn cael ei fusnes dosbarthu trydan, a gwerthwyd asedau eraill Hyder. Gwerthwyd Dŵr Cymru i Glas Cymru am £1, ond gyda £1.85 biliwn o ddyled Hyder hefyd.

Ardal

Mae Dŵr Cymru yn cyflenwi dŵr i'r rhan fwyaf o Gymru ac eithrio ardal basn dŵr Afon Hafren yng ngogledd Powys, sy'n cael ei wasanaethu gan gwmni dŵr Hafren Dyfrdwy, un o isgwmniau Severn Trent. Dros Glawdd Offa mae Dŵr Cymru yn goruchwylio cyflenwi dŵr i rannau o Swydd Gaer ac ardal Cilgwri, a hefyd i rannau o Swydd Gaerloyw a Swydd Henffordd, yn enwedig Henffordd ei hun.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Tags:

Dŵr Cymru HanesDŵr Cymru ArdalDŵr Cymru Gweler hefydDŵr Cymru CyfeiriadauDŵr Cymru Dolenni allanolDŵr CymruCymruDŵrLloegr

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

PidynW. Rhys NicholasWordPress.comYr wyddor Gymraeg723MacOSPeredur ap GwyneddY Ddraig GochEpilepsiMamal797Hen Wlad fy NhadauMetropolisCalsugnoRəşid BehbudovCwpan y Byd Pêl-droed 2018Anna MarekBeverly, MassachusettsRicordati Di MeThe Mask of ZorroJohn FogertyAngharad Mair1855MelangellLouis IX, brenin FfraincDant y llewCarecaMercher y LludwAberhondduPibau uilleannSiarl III, brenin y Deyrnas UnedigBoerne, TexasY Ffindir216 CCThe Squaw ManLlydaw UchelDoler yr Unol DaleithiauLee MillerPisaRwsiaAfon TafwysLori felynresogDiana, Tywysoges CymruCytundeb Saint-GermainOld Wives For NewIndonesiaCyrch Llif al-AqsaCarly FiorinaTwitterNovialRheinallt ap GwyneddAil GyfnodRhaeGwyThe Beach Girls and The MonsterGertrude AthertonTywysogArmeniaDinasyddiaeth yr Undeb EwropeaiddUMCADeuethylstilbestrol.auSali Mali746Tri YannFfilmMorwyn🡆 More