Darlledwraig, awdur a chyn-was sifil yw Ffion Hague (ganwyd 1968) a ddaeth yn adnabyddus fel gwraig y gwleidydd ceidwadol William Hague.
Ganwyd Ffion Jenkins yng Nghaerdydd ac mae'n siarad Cymraeg. Daeth i'r amlwg yn gyntaf pan cafodd ei dewis i ddysgu'r Gymraeg i'w darpar ŵr pan oedd yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Mae'n chwaer iau i Manon Antoniazzi, sy'n ferch i gyn-drefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol Emyr Jenkins.
Ffion Hague | |
---|---|
Ganwyd | 21 Chwefror 1968 Caerdydd |
Man preswyl | Richmond |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyflwynydd radio, cofiannydd |
Priod | William Hague |
Mynychodd Ysgol Gyfun Glantaf, lle'r oedd yn perthyn i Gerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru a'r Côr Cenedlaethol Ieuenctid. Wedi gadael yr ysgol aeth yn ei blaen i astudio Saesneg yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen, ac ymunodd â'r Gwasanaeth Sifil ar ôl graddio.
Cyfarfu William Hague yn 1995 pan ddaeth yn ysgrifennydd preifat yn y Swyddfa Gymreig. Oherwydd yr embaras a achoswyd gan yr ysgrifennydd Cymru blaenorol (John Redwood) a fethodd ganu'r Anthem Genedlaethol, penderfynodd ei olynydd, Hague, ddechrau dysgu geiriau'r Anthem. Dewiswyd Ffion i wneud hynny, a phriododd y ddau ym 1997 ac ar hyn o bryd["pan?"] maent yn byw ym Mhowys.
Mae Ffion wedi cyhoeddi bywgraffiad o David Lloyd George o dan y teitl Y Boen a Braint. a chyflwynodd gyfres o raglenni ar gyfer S4C: Mamwlad (2012),Tri Lle (2010) a Dwy Wraig Lloyd George (2009). Mae hi hefyd wedi cyflwyno rhaglenni ar gyfer BBC Radio 3 a BBC Radio 4.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Ffion Hague, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.