Refferendwm yw pleidleisio ar ddeddfwriaeth benodol gan yr etholaeth gyfan i'w derbyn neu'i gwrthod.
Gall fod ar lefel cenedlaethol, rhanbarthol neu leol.
Yn y DU cafwyd refferendwm ar aelodaeth o'r Gymuned Economaidd Ewropeaidd (yr EEC, rhagflaenydd yr Undeb Ewropeaidd bresennol). Yng Nghymru a'r Alban cynhaliwyd refferenda ar sefydlu siambrau etholedig datganoliedig yn 1979 a 1997. Yng Nghymru ei hun cafwyd sawl 'refferendwm' neu bôl lleol (ar lefel y sir) dros y blynyddoedd ar bwnc llosg Cau'r Tafarnau ar y Sul.
Yn yr Unol Daleithiau mae rhai taleithiau yn caniatau math o refferendwm a elwir yn initiative, lle gall unigolyn neu grŵp o ddinesyddion ddrafftio cynnig ar bwnc penodol yn ymwneud â llywodraeth y dalaith ac, os ceir digon o lofnodion ar ddeiseb, ei roi o flaen yr etholwyr i bleidleisio arno.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Refferendwm, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.