Refferendwm ar ddyfodol Catalwnia, a gynhaliwyd ar 1 Hydref 2017 oedd y Refferendwm ar Annibyniaeth Catalwnia 2017.
Fe'i trefnwyd gan Lywodraeth Catalwnia (neu'r Generalitat de Catalunya). Ar hyn o bryd mae Sbaen yn ystyried y wlad yn un o'i 'Chymunedau Ymreolaethol'. Cyhoeddodd Llywodraeth Catalonia eu bwriad o gynnal refferendwm ar 6 Medi 2017, a'r diwrnod wedyn, fe'i gwnaed yn anghyfreithiol gan Lys Cyfansoddiad Sbaen, gan y byddai refferendwm yn eu barn nhw yn groes i Gyfansoddiad y Wlad (sef y Constitución española de 1978). Yn dilyn y refferendwm, ar 27 Hydref 2017 cyhoeddwyd sefydlu Gweriniaeth Catalwnia (2017).
Heddwas o Sbaen yn taro sifiliaid ar ddiwrnod y Refferendwm | |
Enghraifft o'r canlynol | independence referendum |
---|---|
Dyddiad | 1 Hydref 2017 |
Rhan o | Catalan independence process, 2017–18 Spanish constitutional crisis |
Rhagflaenwyd gan | Refferendwm ynghylch annibyniaeth Catalwnia 2014 |
Prif bwnc | mudiad Catalwnaidd dros annibyniaeth |
Gwefan | https://referendum.cat/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Baner Catalwnia | ||
Dyddiad | 2017 | |
---|---|---|
Lleoliad | Catalwnia | |
Gwefan | ||
ref1oct.eu |
Fel rhan o'u hymgyrch Operación Anubis, ceisiodd heddlu Sbaen atal y broses ddemocrataidd o bleidleisio, gan anafu 844 o Gataloniaid. Er hyn, pleidleisiodd 2.3 miliwn. Cyhoeddodd Zeid Ra'ad Al, Uwchgomisiynydd y Cenhedloedd Unedig dros Hawliau Dynol, mae'n hanfodol fod Llywodraeth Sbaen yn ymchwilio'n drylwyr i'r trais a achoswyd gan eu heddlu ar ddiwrnod y refferendwm.
Y bwriad oedd cynnal refferendwm ddi-droi'n-ôl a fyddai'n cael ei wireddu, er y byddai hyn yn anghyfreithiol yn llygad Llywodraeth Sbaen.
Unig gwestiwn y papur pleidleisio oedd: "Ydych chi'n dymuno gweld Catalwnia'n genedl annibynnol ar ffurf gweriniaeth?" gyda dau ddewis yn ateb: "Ydw" neu "Nac ydw". Pleidleisiodd 2,044,038 (92.01%) "Ydw" a 177,547 (7.99%) "Nac ydw", gyda 43.03% o bobl cymwys wedi bwrw eu pleidlais. Amcangyfrifodd y Llywodaeth fod 770,000 o bobl wedi methu pleidleisio gan fod heddlu Sbaen wedi eu hatal.
Y diwrnod wedi'r cyhoeddiad, sef y 7fed o Fedi, cyhoeddodd Llys Cyfansoddiad Sbaen waharddiad ar gynnal refferendwm o'i fath ond mynegodd Llywodraeth Catalwnia nad oedd gorchymyn y llys yn ddilys yng Nghatalwnia ac aethant ati'n ddiymdroi i gasglu cefnogaeth i'r dymuniad o gael refferendwm gan 688 allan o 948 cyngor bwrdeistrefol.
Mae Llywodraeth Sbaen yn gwrthwynebu'r 'hawl' i'r Catalwniaid reoli eu hunain ac i gynnal refferendwm gan ddal nad yw Cyfansoddiad Sbaen, 1978 yn caniatáu i unrhyw ranbarth o Sbaen gynnal pleidlais ynghylch annibyniaeth.
Barn Llywodraeth Catalwnia yw fod gan drigolion y wlad yr hawl i benderfynu drostynt eu hunain, a bod y refferendwm felly'n foesol gywir a theg. Ymateb Cyngor Ewrop oedd y dylai unrhyw refferendwm fod yn ddarostyngedig i'r cyfansoddiad ("in full compliance with the constitution"). Ychydig iawn o gefnogaeth gan wledydd Ewrop mae'r ymgyrch dros gynnal y refferendwm wedi'i gael hyd yma gan y byddai, o bosib, yn agor y drws i wledydd eraill ddilyn eu hesiampl.
Ar 23 Ionawr 2013 cymeradwyodd Llywodraeth Catalwnia (gydag 85 pleidlais o blaid a 41 yn erbyn a dwy yn atal) "Ddatganiad o Sofraniaeth a'r Hawl i Bobl Catalwnia Benderfynu". Dyma ran ohono:
Yn unol ag ewyllys mwyafrif pobol Catalwnia, sydd wedi'i fynegi mewn modd democrataidd, mae nawr yn fwriad gan Lywodraeth Catalwnia i gychwyn y broses o hyrwyddo hawl dinasyddion Catalwnia i benderfynu gyda'i gilydd eu dyfodol gwleidyddol.
Cynhaliwyd Refferendwm ynghylch annibyniaeth Catalwnia 2014 ar 9 Tachwedd 2014 lle gwelwyd 80% o blaid bod yn Wladwriaeth annibynnol. Yn y misoedd a oedd yn arwain at Etholiad Cyffredinol Catalwnia, 2015, tyngodd pob plaid a oedd dros annibyniaeth y byddant yn cynnal refferendwm ynghylch annibyniaeth cyn 17 Medi 2017.
Ar 14 Hydref, cynigiodd Artur Mas i Gavarró, Arlywydd y wlad, 'broses i'w ddinasyddion gymryd rhan yn nyfodol y wlad', yn hytrach na refferendwm. Mynegodd Llywodraeth Catalwnia eu bwriad i apelio yn erbyn Llywodraeth Sbaen yn y Llys Cyfansoddiadol, a phenderfynodd y Llys (ar 4 o Dachwedd) i ohirio'r bleidlais. Cyhoeddodd Llywodraeth Catalwnia y bydden nhw'n bwrw ymlaen gyda'r bleidlais, er gwaethaf penderfyniad Llys Cyfansoddiadol Sbaen.
Ychydig cyn Refferendwm 2017, ac yn dilyn gorchymyn gan Lywodraeth Saben, caewyd 24 o wefannau a oedd yn hyrwyddo'r Refferendwm ac ymosodwyd ar swyddfeydd y parth-enw .cat gan yr heddlu. Cafwyd DNS tampering hefyd ar wefannau eilradd (mirror websites) Aeth Amazon ati i dynnu i lawr y system ganolog a oedd i ddilysu ac adnabod pwy-oedd-pwy ac yn dilyn pwysau gan Sbaen caeodd Google yr ap a oedd yn rhannu gwybodaeth ynghylch lleoliad y canolfannau pleidleisio.
Oherwydd hyn, honnwyd fod rhai pobl wedi pleidleisio ddwywaith ac nad oedd pleidleisiau rhai tramorwyr wedi'u cynnwys yn y cyfrifiad. Dywedodd Llywodraeth Sbaen hefyd fod rheolau'r refferendwm wedi newid 45 munud cyn dechrau'r bleidlais; ee rhoddwyd yr hawl i unrhyw ddinesydd bleidleisio mewn unrhyw ganolfan, hyd yn oed os nad oedd yr un a roddwyd. Hefyd, derbyniwyd pleidlais a phleidleisiau cartref answyddogol heb unrhyw amlen.[angen ffynhonnell]
Mynegodd cyn Gadeirydd Cyngor Ewrop, Walter Schwimmer, Jimmy Wales, y colofnydd Katie Hopkins ac eraill eu anniddigrwydd fod heddlu Sbaen wedi bod mor dreisgar yn erbyn sifiliaid a oedd yn ceisio pleidleisio.
“ | Rajoy's subsequent choice to employ physical force to impose his will on civilians exercising a basic democratic right carried a chill echo of Spain's past and a dire warning for the future. That is dictatorship. Surely no one believes the cause of Catalan independence will fade away after Sunday's bloody confrontations that left hundreds injured. Rajoy's actions may have ensured, on the contrary, that the campaign enters a new, more radical phase, potentially giving rise to ongoing clashes, reciprocal violence, and copycat protests elsewhere, for example among the left-behind population of economically deprived Galicia. In Spain's Basque country, where Eta separatists waged a decades-long terror campaign that killed more than 800 people and injured thousands, the dream of independence is on ice – but not forgotten. The danger is that a new generation of younger Basques who feel ignored by Madrid, and repelled by what happened in Barcelona, may be tempted to revisit Eta's unilateral 2010 ceasefire and its subsequent disarmament. | ” |
“ | How could an EU that opposed independence for, say, the Kurds or Crimea suddenly decide to welcome it for the Catalans? The EU would find it hard to back a vote for self-determination that had been so clearly ruled illegal by a country's constitutional court. | ” |
“ | In European sovereignty, not in more national flags, lies the bright future of every European of good will. | ” |
“ | ...but it can and should be a lesson for the world about the importance of upholding the spirit of democracy and the protection of human rights. But the United Nations at large can do more. Through official means, it should send a message to any actors who instigate, dictate, justify and/or perpetrate violations of fundamental rights. It should also advise that all concerned parties put human rights, accountability and the protection of civilians at the center of political negotiations and peace processes. Let's hope our institutions -- national, regional and global -- pass the test of protecting democratic values in Catalonia." | ” |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Refferendwm ynghylch annibyniaeth Catalwnia 2017, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.