Gwlad yng ngogledd orllewin Ewrop yw'r Alban (hefyd Sgotland) (Gaeleg yr Alban: Alba; Sgoteg a Saesneg: Scotland).
Perthynai trigolion ei deheudir i'r un grŵp ethnig a phobl Cymru am gyfnod o fileniwm, gyda'r Frythoneg Orllewinol (ac yna'r Gymraeg) yn cael ei siarad o lannau'r Fife i Fynwy. Mae felly'n un o'r gwledydd Celtaidd ac yn un o wledydd Prydain, enwog am ei wisgi. Ar 18 Medi cynhaliwyd Refferendwm annibyniaeth i'r Alban, 2014 a flwyddyn yn ddiweddarach cafwyd Etholiad Cyffredinol lle gwelwyd newid syfrdanol yng nghenedlaetholdeb ei thrigolion.
Alba | |
Math | Gwlad |
---|---|
Prifddinas | Caeredin |
Poblogaeth | 5,404,700 |
Anthem | Flower of Scotland |
Pennaeth llywodraeth | Humza Yousaf |
Cylchfa amser | UTC±00:00, UTC+01:00 |
Nawddsant | Andreas |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg, Gaeleg yr Alban, Sgoteg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | cenhedloedd Celtaidd |
Sir | y Deyrnas Unedig |
Arwynebedd | 78,782 km² |
Yn ffinio gyda | Lloegr |
Cyfesurynnau | 57°N 5°W |
Cod SYG | S92000003 |
GB-SCT | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth yr Alban |
Corff deddfwriaethol | Senedd yr Alban |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog yr Alban |
Pennaeth y Llywodraeth | Humza Yousaf |
Arian | punt sterling |
Sant Andreas, un o apostolion Iesu Grist, yw nawddsant yr Alban – 30 Tachwedd yw dyddiad dygwyl Sant Andreas. Roedd yr Alban yn deyrnas annibynnol tan y 18g. Ar 26 Mawrth 1707, unwyd senedd yr Alban â senedd Lloegr a ffurfiwyd teyrnas unedig Prydain Fawr. Ail-sefydlwyd senedd yr Alban yn 1999 fel senedd ddatganoledig o dan lywodraeth Llundain.
Siaredir dwy iaith frodorol yn yr Alban yn ogystal â'r Saesneg – Gaeleg a Sgoteg. Mae Gaeleg yn iaith Geltaidd. Hi oedd iaith wreiddiol teyrnas yr Alban ac mae'n dal yn iaith fyw yn y gogledd orllewin. Mae Sgoteg yn perthyn i'r Saesneg, ac fe'i hystyrir yn dafodiaith Saesneg gan rai, er bod Llywodraeth yr Alban a Siarter Ieithoedd Lleiafrifol Ewrop yn ei chyfrif yn iaith leiafrifol draddodiadol. Mae'n dal i gael ei siarad yn nwyrain a de'r Alban.
O ran arwynebedd, mae'r tir mawr yn draean y gweddill o wledydd Prydain, sef 78,772 km2 (30,414 mi sgw). Mae felly tua'r un maint â'r Weriniaeth Tsiec Yr unig ffin wleidyddol ydy hwnnw yn ne'r wlad gyda Lloegr, sy'n 96 km (60 mi) – rhwng aber Afon Tuedd yn y dwyrain hyd at Moryd Solway (Solway Firth). Saif Iwerddon 30 km (19 mi) i'r gorllewin o benrhyn Kintyre; mae Norwy 305 km (190 mi) i'r gogledd ddwyrain, ac mae Ynysoedd Ffaröe 270 km i'r gogledd.
Mae'r Alban yn nodedig am ei mynyddoedd. Yn ystod y cyfnod Pleistosen, roedd y wlad wedi'i gorchuddio o dan rew ac mae olion y rhewlifau i'w gweld yn amlwg ar y tirwedd. Y prif nodwedd ddaearegol yw'r ffalt a red o Arran hyd at Stonehaven ac mae'r creigiau sydd i'r gogledd o'r ffin hwn (sef Ucheldir yr Alban) yn hen iawn ac yn perthyn i gyfnod Cambriaidd a Chyn-Gambriaidd.
Mae'r iseldir yn perthyn i ddau gyfnod gwahanol; mae gogledd yr iseldir yn perthyn i'r Paleogen a'r de'n perthyn i'r cyfnod Silwraidd, sef 408.5 miliwn o flynyddoedd yn ôl.
Dyma restr o awdurdodau unedol yr Alban a map sy'n dangos eu lleoliad yn y wlad:
Y deg prif afon yn yr Alban, yn nhrefn eu hyd, yw:
Dinistriodd y rhewlifoedd parhaus, a orchuddiai arwynebedd tir yr Alban yn llwyr, unrhyw olion o fodolaeth dynol yn ystod y cyfnod Oes Ganol y Cerrig. Credir i'r criwiau cyntaf o helwyr-gasglwyr gyrraedd yn yr Alban oddeutu 12,800 o flynyddoedd yn ôl, am fod yr iâ wedi diflannu wedi'r cyfnod rhewlifol olaf.
Dechreuodd y setlwyr cyntaf adeiladu eu tai parhaol cyntaf yn yr Albaen tua 9,500 o flynyddoedd yn ôl, a gwelwyd y pentrefi cyntaf tua 6,000 o flynyddoedd yn ôl. Daw'r pentref Skara Brae ar prif dir Orkney o'r cyfnod hwn. Mae cynefinoedd Neolithig, safleoedd claddu a defodau yn gyffredin iawn yn Ynysoedd y Gogledd ac Ynysoedd y Gorllewin, lle roedd prinder o goed wedi arwain at y rhan fwyaf o adeiladau'n cael eu codi o garreg.
Siaradwyd y Frythoneg Ddwyreiniol o lannau'r Fife i lannau'r Hafren a Chynfeirdd o ddeheudir yr Alban oedd Taliesin ac Aneirin. Arweinydd o Fanaw Gododdin yn Nyffryn y Forth oedd Cunedda yn ôl yr hanes, sef sefydlydd Teyrnas Gwynedd. Roedd cryn gyfathrach a mynd-a-dod rhwng Cymru a'r Alban hefyd yn Oes y Seintiau: mae Cyndeyrn (Saesneg: Mungo) yn dal i gael ei gofio yn Llanelwy ac yn Glasgow.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Yr Alban, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.