Andreas: Apostol

Un o'r deuddeg Apostol oedd Sant Andreas (Groeg: Ανδρέας, Andreas).

Roedd yn frawd i Simon Pedr ac yn fab i Jonah. Credir iddo gyfoesi gyda Christ ac iddo, felly, fyw yn hanner cynta'r 1c. Roedd yr enw'n eitha poblogaidd gan Iddewon yr oes, ac mae'n golygu 'dewr', 'dynol'. Ei ddydd gŵyl yw 30 Tachwedd.

Andreas
Andreas: Apostol
Darlun o Sant Andreas yn Llyfr Oriau De Grey (tua 1390), Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Ganwydc. 6 CC Edit this on Wikidata
Bethsaida Edit this on Wikidata
Bu farw30 Tachwedd 0060 Edit this on Wikidata
Patras Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl30 Tachwedd Edit this on Wikidata
Andreas: Apostol
Cerflun o Andreas ar allor yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi

Ceir ei hanes yn y Testament Newydd. Yn Mathew 4:18–22 ac yn Marc 1:16–20, dywedir ei fod yn frodor o bentref Bethsaida, Galilea, ac yn bysgotwr ar Fôr Galilea pan alwyd ef a'i frawd Pedr gan Iesu fel un o'i ddeuddeg disgybl. Dywedir i Grist ddweud "Ac mi a'ch gwnaf yn bysgotwyr dynion."; dyma darddiad y gair "Disgyblion" (Groeg: ἁλιεῖς ἀνθρώπων, halieis anthrōpōn).

Dywedir yn Llyfr Ioan 1:35–42, ei fod yn ddisgybl i Ioan Fedyddiwr ac i hwnnw ei gyfeirio at Grist.

Dywedir iddo gael ei ferthyru yn ninas Patras yng Ngwlad Groeg trwy gael ei groeshoelio ar groes o'r ffurf a elwir yn Crux decussata neu Groes Sant Andreas, ar ffurf X. Cadwyd ei gorff yn Patras. Ychydig wedi hynny, tua 357 OC, daeth gorchymyn gan Constantius II i symud ei esgyrn o Patras i Eglwys yr Apostolion Sanctaidd yng Nghaergystennin. Yn nheyrnasiad yr Ymerawdwr Basil I (867–886), dychwelwyd penglog Andreas yn ôl i Patras.

Creiriau

Cedwir creiriau a gysylltir gydag Andreas mewn nifer o lefydd gan gynnwys: Basilica Sant Andreas yn Patras, Groeg, Eglwys Gadeiriol Amalfi (y 'Duomo di Sant'Andrea'), yr Eidal, ac Eglwys Gadeiriol Gatholig y Santes Fair, Caeredin. Casglwyd llawer o fân greiriau a gysytlltir gydag ef ledled y byd.

Nawddsant

Andreas: Apostol 
Croes Sant Andreas ar faner yr Alban

Mae'n nawdd-sant yr Alban, Rwsia, Sicilia, Gwlad Groeg, Romania, Amalfi, Luqa (Malta) a Prwsia, hefyd yn nawdd-sant pysgotwyr a llongwyr.

Dywedir i lawer o greiriau Andreas gael eu dwyn i dref bresennol St Andrews (Gaeleg: Cill Rìmhinn). Ceir dwy ddogfen, a gedwir yn y Bibliothèque Nationale, Paris a'r llall yn y Llyfrgell Brydeinig, Llundain, sy'n nodi iddynt gael eu cludo i'r Brenin Óengus mac Fergusa (729–761) gan fynach Gwyddelig o'r enw Regulus (neu Riagail).

Yn ôl traddoiad, yn 832 OC, arweiniodd Óengus II ei fyddin yn erbyn yr Angle Æthelstan, ble saif Athelstaneford, Dwyrain Lothian. Gweddiodd Óengus am fuddugoliaeth gan fod ganddo lawer llai o filwyr yn ei fyddin ef, na'r Angles, a cyhoeddodd y byddai'n dyrchafu Andreas i fod yn Nawddsant pe bai'n trechu'r mewnfudwyr niferus. Ar hyn, ffurfiwyd croes o gymylau yn yr awyr, a chyhoeddwyd fod hyn yn arwydd o fuddugoliaeth. Bu'r Albanwyr yn fudugoliaethus, a chadwodd at ei air gan ddyrchafu Andreas yn Nawddsant.

Cyfeiriadau

Tags:

30 TachweddGroeg (iaith)Simon PedrY Deuddeg Apostol

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Ryan DaviesMoliannwnNaturAfon TeifiGwyddoniadurEmily Greene BalchElectronDyn y Bysus EtoCernywiaidDurlifDulcineaLlundainHuw ChiswellY DiliauDinas GazaDreamWorks PicturesRhyfel yr ieithoeddDydd MercherAfon TaweIeithoedd BrythonaiddMark Taubert9 MehefinWinslow Township, New JerseyVaniYnniMain PageCalan MaiHydrefShowdown in Little TokyoLe Porte Del SilenzioRhestr adar CymruAfon Taf (Sir Gaerfyrddin)Peter HainGwefanRhestr dyddiau'r flwyddyn11 EbrillAlan Bates (is-bostfeistr)Pussy RiotAfon DyfiSex TapeMeuganSupport Your Local Sheriff!Vladimir PutinMuscatConnecticutSir GaerfyrddinRhys MwynMark DrakefordCalsugnoAfon TâfCyfarwyddwr ffilmHen Wlad fy NhadauNot the Cosbys XXXPhilippe, brenin Gwlad BelgChwyddiantGyfraithRishi SunakGwladwriaeth IslamaiddY CeltiaidWicipediaAlldafliad benywBettie Page Reveals AllKrishna Prasad BhattaraiAfon Gwy1971Prif Weinidog CymruWiciadurGina Gerson🡆 More