Llyfrgell genedlaethol y Deyrnas Unedig ydy'r Llyfrgell Brydeinig (Saesneg: British Library).
Lleolir y llyfrgell yn St. Pancras, Llundain. Mae'n un o lyfrgelloedd ymchwil pwysica'r byd; yn dal dro 150 miliwn o eitemau ym mhob iaith a fformat; llyfrau, newyddiaduron, papurau newydd, cylchgronau, recordiau sain a cherddoriaeth, breinleni, cronfa ddata, mapiau, stampiau, argraffiadau, darluniau a llawer mwy, gan ei wneud yn gasgliad mwya'r byd. Mae casgliadau'r llyfrgell yn cynnwys tua 14 miliwn o lyfrau, ynghyd â casgliad ychwanegol o lawysgrifau sylweddol ac eitemau hanesyddol yn dyddio'n ôl i 2000 CC.
Math | llyfrgell genedlaethol, reference library, llyfrgell ymchwil, universal library, corff cyhoeddus an-adrannol, atyniad twristaidd, adeilad llyfrgell |
---|---|
Ardal weinyddol | Bwrdeistref Llundain Camden |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | St Pancras, Thorp Arch Trading Estate |
Sir | Llundain Fwyaf (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 51.52944°N 0.12694°W |
Cod OS | TQ2997082897 |
Cod post | NW1 2DB |
Perchnogaeth | Adran Ddigidol |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I |
Manylion | |
Cedwir sawl llawysgrif Gymraeg yn y Llyfrgell Brydeinig. Gwaddolwyd y rhan fwyaf ohonynt i'r llyfrgell gan y Gwyneddigion yn hanner cyntaf y 19g, yn y dyddiau cyn sefydlu Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Maent yn cynnwys casgliadau'r Morysiaid, yn cynnwys rhai yn llaw Lewis Morris ei hun, ac eraill a gasglwyd gan Owain Myfyr ac aelodau eraill o'r gymdeithas, sy'n cynnwys sawl llawysgrif ganoloesol hefyd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Llyfrgell Brydeinig, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.