Tref yn Dumfries a Galloway, yr Alban, yw Dumfries (Gaeleg: Dùn Phris; Cymraeg: Caerferes).
Mae'n dref farchnad fawr a fu'n dref sirol hen sir Dumfries. Saif yn ne-orllewin yr Alban ar lan Afon Nith ger ei haber ym Moryd Solway. Poblogaeth: 49,221 (2011) Mae Caerdydd 400.5 km i ffwrdd o Dumfries ac mae Llundain yn 459.1 km. Y ddinas agosaf ydy Caerliwelydd sy'n 46.9 km i ffwrdd.
Math | tref, large burgh |
---|---|
Poblogaeth | 32,914, 33,440, 32,379 |
Gefeilldref/i | Passau, Gifhorn, Annapolis, Maryland |
Daearyddiaeth | |
Sir | Dumfries a Galloway |
Gwlad | Yr Alban |
Gerllaw | Afon Nith |
Cyfesurynnau | 55.07°N 3.62°W |
Cod SYG | S20000309, S19000338 |
Cod OS | NX976762 |
Cod post | DG1–DG2 |
Mae enw Gaeleg y dref yn cynnwys yr elfennau dùn (caer) a phris (coedwig fach; cf. Cymraeg prysgwydd), sy'n awgrymu y bu amddiffynfa ar y safle ar un adeg. Roedd yr ardal yn rhan o diriogaeth llwyth Celtaidd y Selgovae yn yr Hen Ogledd ac mae'n bosibl y bu ganddynt gaer yno.
Bu'r bardd Robert Burns, brodor o Swydd Ayr, yn byw yn Dumfries o 1791 hyd ei farwolaeth yn 1796. Claddwyd ef ym mynwent Eglwys St. Michael's.
Dyma gartref clwb pêl-droed Queen of the South.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Dumfries, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.