Mae'r term yr Hen Ogledd yn cyfeirio at diriogaeth teyrnasoedd Brythonaidd yr ardal sydd erbyn heddiw yn rhan o ogledd Lloegr a de'r Alban yn y cyfnod yn dilyn ymadawiad y Rhufeiniaid, sef o tua'r bumed i'r seithfed ganrif.
O'r Hen Ogledd daeth y llenyddiaeth Gymraeg gynharaf, cerddi arwrol gan feirdd yr Hengerdd am y brwydro rhwng teyrnasoedd y Brythoniaid a llwythau'r Eingl-Sacsoniaid oedd yn ceisio goresgyn y Brythoniaid a meddiannu eu tir. O'r Hen Ogledd daeth Cunedda Wledig a'i ddilynwyr hefyd, sefydlwyr teyrnas Gwynedd.
Math | rhanbarth, teyrnas, gwladwriaeth, gwlad ar un adeg |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Cyfesurynnau | 54.6°N 2.3°W |
Pennaeth y wladwriaeth | Coel Hen |
Gellir diffinio'r Hen Ogledd fel yr Alban i'r de o linell ddychmygol rhwng cyffiniau Stirling a Loch Lomond a'r siroedd Seisnig presennol Cumbria, Swydd Gaerhirfryn, Swydd Durham, Northumberland, Swydd Efrog a Humberside. Mae hyn yn diriogaeth ehangach nag yw Cymru heddiw. Mae'n bosibl fod teyrnasoedd yr Hen Ogledd (trwy Elfed) yn ymestyn mor bell i'r de ag ardal Sir Gaer heddiw. Cafodd teyrnasoedd yr Hen Ogledd eu gwahanu oddi wrth Gymru gyda Brwydr Caer yn 615. Ffurf ar y Frythoneg a droes yn Gymraeg Cynnar oedd iaith trigolion yr Hen Ogledd: Cymbreg yw'r enw a ddefnyddir weithiau i'w disgrifio a cheir olion ohoni mewn enwau lleoedd yn Cumbria.
'Gwŷr y Gogledd' yw'r enw traddodiadol am bobl yr Hen Ogledd. Roeddent yn ddisgynyddion i lwythau Celtaidd y Votadini, Selgovai, Novantai a'r Damnonii (yn ne'r Alban) a'r Brigantes i'r de o Fur Hadrian. Lleolir nifer o draddodiadau a chymeriadau sydd i'w cael yn llenyddiaeth Cymraeg Canol yn yr Hen Ogledd. Yn eu plith y mae arwyr dwy o'r Tair Rhamant, sef Owain ab Urien (Iarlles y Ffynnon) a Peredur fab Efrog.
Ulaid Dumnonia Lindsey Allwedd: |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Yr Hen Ogledd, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.