Sacsoniaid

Yn wreiddiol, roedd y Sacsoniaid yn bobl niferus a nerthol oedd yn byw yn yr ardaloedd sydd yn yr Almaen a'r Iseldiroedd heddiw.

Roedd Ptolemi yn sôn amdanynt pan yn siarad am Jutland (rhan o Ddenmarc heddiw) a'r ardal sydd yn Schleswig-Holstein, y talaith mwyaf gogleddol yr Almaen heddiw. Mae'n ymddangos fod yr enw Sacson yn dod o'r sacs (Hen Sacsoneg sahs, Hen Saesneg seax), math o gleddyfan unfin yr oeddynt yn ei defnyddio.

Sacsoniaid
Enghraifft o'r canlynolgrwp ethnig hanesyddol, grŵp ethnig, llwyth Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Sacsoniaid
Gweddillion sacs (uchod) ac atgynhyrchiad (isod)
Sacsoniaid
Mamwledydd posibl y Sacsoniaid, yr Eingl a'r Jiwtiaid cyn iddynt ddod i Brydain

Y Sacsoniaid ym Mhrydain

Aeth rhai Sacsoniaid ynghyd ag Angliaid (h.y. yr Eingl), Jiwtiaid a Ffrisiaid i Brydain yn ystod yr Oesodd Canol Cynnar. Roedd teyrnasoedd y Sacsoniaid yn ne-ddwyrain Lloegr, ac enw'r Sacsoniaid sydd wedi ei gadw hyd heddiw yn Essex, Sussex a Wessex (sef teyrnasoedd y Sacsoniaid Dwyreinol, y Sacsoniaid Deheuol a'r Sacsoniaid Gorllewinol). Yn ddiweddarach daeth y Sacsoniaid, yr Eingl ac eraill yn un genedl, a defnyddir yr enw 'Eingl-Sacsoniaid' amdanynt. Ymhen amser unwyd Lloegr yn un deyrnas. Daw'r enw Cymraeg Sais ~ Saeson, fel y gair am y Saeson yn yr ieithoedd Celtaidd eraill, o'r enw Lladin Saxō (un.) ~ Saxones (ll.) 'Sacson(iad)'. Mae eu henw amdanynt eu hunain, English, yn dod o'r enw 'Angliaid' (Eingl).

Y Sacsoniaid yn yr Almaen

Ar y cyfandir yn ystod y 8g codwyd Dugiaeth y Sacsoni. Roedd y Sacsoniaid yn amharod i dderbyn Cristnogol am amser hir, ond gorfododd Siarlymaen (772-804) hwy i ddod yn Gristionogion ar ôl eu gorchfygu mewn rhyfel a lladd llawer ohonynt. Dinistriwyd Irminsul eu coeden sanctaidd.

O dan reolaeth y Carolingiaid roedd rhaid i'r Sacsoniaid talu teyrnged, fel y bobloedd Slafiaidd, megis yr Abodrites a'r Wendiaid. Beth bynnag, daeth Sacson i fod yn frenin hefyd (Harri yr Adarwr ym 919) ac yn ystod y 10g daeth Sacson yn ymerawdwr cyntaf yr Almaen (Otto I Fawr). Daeth ei rheolaeth i ben ym 1024 a rhanwyd y wlad ym 1180 pan oedd Harri y Llew, ei ŵyr, yn gwrthod dilyn yr ymerawdwr Ffredrig Barbarossa i frwydro yn yr Eidal.

Mae ardal o'r enw Sacsoni yn ne-ddwyrain yr Almaen. Cafodd yr ardal hon ei henw pan gipiodd yr ardalydd Meissen diriogaeth y Sacsoniaid ym 1423 a newidiodd ef enw y cyfan o'i diriogaethau o'r ‘Ardalyddiaeth Meissen’ (Markgrafschaft Meißen) i'r ‘Etholyddiaeth y Sacsoni’ (Kurfürstentum Sachsen) am fod y teitl Etholydd Tywysogol y Sacsoniaid yn swnio'n fwy nerthol na'i deitl gwreiddiol. Oherwydd hyn nid yw'r ‘Sacsoniaid’ modern, yn yr ysytyr o drigolion Sacsoni, yn cyfateb yn union i'r hen lwyth.

Heddiw, mae gan dair o daleithiau'r Almaen yr enw ‘Sacson’ yn rhan o'u henwau nhw: Sacsoni Isaf yn y gogledd-orllewin, Sachsen Anhalt yn y canolbarth a Sacsoni yn y de-ddwyrain.

Sacsoniaid 
Talaith Sacsoni Isaf yn yr Almaen gyfoes

Tags:

AlmaenDenmarcHen SacsonegHen SaesnegIseldiroeddPtolemiSchleswig-Holstein

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

MathemategyddParalelogram1683LleiddiadDisgyrchiantThere's No Business Like Show BusinessPaentioDinasoedd CymruYnysoedd MarshallCynnyrch mewnwladol crynswthSystem weithreduThe ChiefRobert Croft1200Jään KääntöpiiriPedro I, ymerawdwr BrasilDirty DeedsTonga2004Flora & UlyssesApat Dapat, Dapat ApatCastlejordan, Sir Meath, Gweriniaeth IwerddonAderyn ysglyfaethusBlwyddyn naidJSTORThe SpectatorCemegCalsugnoWicipedia CymraegWashingtonCharles GrodinDaearyddiaethYsgol Gyfun Maes-yr-YrfaY Ganolfan Ddarlledu, CaerdyddCaerloyw1 AwstVin DieselCreampieSands of Iwo Jima19261933Gwlad BelgCynnwys rhyddSpring SilkwormsThe Mayor of CasterbridgeDiltiasemBBC Radio CymruNever Mind the BuzzcocksThe Bitter Tea of General YenYr AmerigY Deyrnas UnedigLumberton Township, New JerseyMwstardCristnogaethBronCodiadBarry JohnY Cynghrair ArabaiddTsunamiIsabel Ice1915IndienSweet Sweetback's Baadasssss SongJustin TrudeauWy (bwyd)SafflwrClive JamesDydd GwenerMarie AntoinetteAurPunt sterlingEd Sheeran🡆 More