Mae Mur Hadrian (Saesneg: Hadrian's Wall; Lladin: Vallum Hadriani) yn fur amddiffynnol a adeiladwyd gan yr Ymerodraeth Rufeinig yn yr hyn sy'n awr yn Lloegr.
Am ran helaeth o'r cyfnod Rhufeinig ym Mhrydain, Mur Hadrian oedd ffin ogleddol y dalaith Rufeinig, er bod mur arall, Mur Antoninus, ymhellach i'r gogledd yn yr Alban.
Math | Roman limes, cordon, safle archaeolegol Rhufeinig, atyniad twristaidd |
---|---|
Enwyd ar ôl | Hadrian |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Limes Britannicus, borders of the Roman Empire |
Sir | Northumberland, Cumbria |
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Cyfesurynnau | 55.0242°N 2.2925°W |
Rheolir gan | English Heritage |
Statws treftadaeth | Safle Treftadaeth y Byd |
Manylion | |
Roedd y mur tua 80 milltir Rufeinig (117 km) o hyd, yn ymestyn o Segedunum yn Wallsend ar Afon Tyne yn y dwyrain i Foryd Solway yn y gorllewin. Mae'r mur i gyd yn Lloegr; mae tua 15 km i'r de o'r ffin gyda'r Alban yn y gorllewin, a 110 km o'r ffin yn y dwyrain. I'r dwyrain o Afon Irthing mae wedi ei hadeiladu o gerrig, 5 - 6 medr o uchder a 3 medr o drwch. I'r gorllewin o'r afon roedd y mur wedi ei adeiladu o dywyrch, 3.5 medr o uchder a 6 medr o drwch.
Adeiladwyd y mur yn dilyn ymweliad yr Ymerawdwr Rhufeinig Hadrian â Phrydain yn 122 OC. Credir i'r gwaith adeiladu gymeryd 8 mlynedd, gyda milwyr o bob un o'r tair lleng oedd ym Mhrydain ar y pryd yn cynorthwyo. Roedd y mur yn rhan o weithiau amddiffynnol ehangach a oedd yn cynnwys ffosydd cyfochrog.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Mur Hadrian, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.