Brythoniaid

Roedd y Brythoniaid (neu'r Brutaniaid a hefyd Brython fel enw unigol lluosog) yn bobl a'r oedd yn byw yn ynys Prydain i'r de o Ucheldiroedd yr Alban cyn goresgyniad y Rhufeiniaid.

Nid un "genedl" oeddynt ond yn hytrach gasgliad o deyrnasoedd annibynnol mawr a bach yn seiliedig ar batrymau llwythol. Mae llawer o ysgrifenwyr wedi anghofio am y Brythoniaid – maen' nhw'n defnyddio termau fel "Celtiaid" neu "Brythoniaid Rhufeinig" gan amlaf.

Brythoniaid
Brythoniaid
Enghraifft o'r canlynolgrwp ethnig hanesyddol Edit this on Wikidata
MathY Celtiaid Edit this on Wikidata
Tiriogaethau Prydain 500-700
Teyrnasoedd Cymru 400-800
(y map gwreiddiol gan William Rees 1959
Atgynhyrchwyd yn 'Hanes Cymru' gan John Davies)

Erbyn i'r Rhufeiniaid adael yn 410 OC roedd Lladin, iaith y Rhufeiniaid, wedi dylanwadu ar y Frythoneg ac roedd hi'n dechrau newid ei strwythur. Roedd yr iaith yn datblygu a'r ysgogiad i gofnodi gwahanol ddeunydd – ysgrifau am hanes a dirywiad tybiedig y genedl gan y mynach Gildas, canu Taliesin ac Aneirin yn cael eu traddodi ar lafar, a chofnodion a phytiau mewn llawysgrifau eglwysig ac ar feini – yn arwain at gychwyn llenyddiaeth Gymraeg.

Yn llenyddiaeth gynnar Cymru, defnyddir yr enwau "Cymry" a "Brython" (Brythoniaid/Brutaniaid) ochr yn ochr.

Roedd y Cymry'n ymwybodol iawn o'u perthynas â'r Llydäwyr yn Llydaw (fel y tyst yr enw Breton) a'r Cernywiaid yng Nghernyw, ynghyd â'u cyd-Frythoniaid yn yr Hen Ogledd. Dros y môr i Lydaw aeth nifer o'r Brythoniaid, yn ôl chwedl Macsen Wledig a ffynonellau eraill, wedi'r goresgyniad Sacsonaidd yn Lloegr – a dyma le ymsefydlodd nifer o'r seintiau Brythonaidd cynnar.

Llyfryddiaeth

  • Geraint Bowen (gol.), Y Gwareiddiad Celtaidd (Caerdydd, 1987). Gweler yn arbennig pennod 4, "Y Brydain Rufeinig" gan D. Ellis Evans a phennod 9, "Yr Ymfudo i Lydaw" gan Léon Fleuriot.
  • Wendy Davies, Wales in the Early Middle Ages (Leicester, 1982)
  • John Morris, The Age of Arthur (Llundain, 1973)
  • Christopher Snyder, The Britons (Blackwell, 2003)

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Tags:

Ucheldiroedd yr AlbanY CeltiaidYnys PrydainYr Ymerodraeth Rufeinig

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

The TinglerWiciadurThe Horse BoyLlain GazaRhyw geneuolSwydd CarlowRhyw llawIrbesartanRhyfel Cartref Yemen (2015–presennol)Gemau Olympaidd ModernKundunXboxDydd LlunNiwrowyddoniaethGalileo GalileiY Coch a'r GwynCoden fustlHizballahMy Pet DinosaurMordiroTamocsiffenElectrolytRichard WagnerSystem weithreduDestins ViolésDydd GwenerYr EidalWashingtonY rhyngrwydLlawysgrif goliwiedigAil Frwydr YpresFfisegRosettaApat Dapat, Dapat ApatGramadeg Lingua Franca NovaLlundainGrowing PainsD. W. GriffithMike PenceY DdaearFfibr optigHufen tolchSgifflAnna VlasovaYr IseldiroeddHuluSefydliad WicimediaFfilm bornograffigPêl-côrffPunt sterlingFfrwydrad Ysbyty al-AhliEfrog NewyddCyfathrach rywiolFfilm gomediThe Wiggles MoviePunch BrothersWoody GuthrieDinasoedd CymruLlywodraeth leol yng NghymruTywysog CymruIestyn GeorgeAfon TafwysBlwyddyn naidBugail Geifr LorraineCriciethY Derwyddon (band)ShïaJava (iaith rhaglennu)AligatorPeiriant WaybackTrydan24 Awst🡆 More