Roedd Derek Leslie Underwood, MBE (8 Mehefin 1945 – 15 Ebrill 2024) yn gricedwr rhyngwladol o Loegr.
Derek Underwood | |
---|---|
Ganwyd | 8 Mehefin 1945 Bromley |
Bu farw | 15 Ebrill 2024 |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cricedwr |
Gwobr/au | Cricedwr y Flwyddyn, Wisden |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Tîm criced cenedlaethol Lloegr, Kent County Cricket Club |
Roedd Underwood yn cael ei ystyried yn un o'r bowlwyr gorau mewn criced Prawf trwy lawer o'i yrfa. Cafodd ei lysenw "Deadly", oherwydd roedd batwyr yn ei chael yn anodd ei drechu.
Cafodd Underwood ei eni yn Ysbyty Mamolaeth Bromley, yn fab i Leslie Frank Underwood a' wraig Evelyn Annie Wells. Roedd ei dad yn fowliwr cyflymder canolig braich dde, yn chwarae i Glwb Criced Farnborough. Cafodd Derek ei addysg yn Beckenham ac Ysgol Ramadeg i Fechgyn Penge. Ym 1961 cymerodd bob un o'r deg wiced ar gyfer XI Cyntaf yr ysgol.
Chwaraeodd Underwood griced sirol i Gaint. Daeth y chwaraewr ieuengaf i gipio 100 o wicedi Pencampwriaeth y Siroedd mewn tymor cyntaf. Arhosodd yng Nghaint drwy gydol ei yrfa o'r radd flaenaf o 24 mlynedd. Ar ôl ymddeol, daeth yn Llywydd Clwb Criced Marylebone (MCC) yn 2008.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Derek Underwood, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.