Ffurf o ddrama trwy gyfrwng cerddoriaeth yw opera.
Fe ymddangosodd yn yr Eidal ar ddechreuad y 15g, ac fe'i chysylltir â cherddoriaeth glasurol y Gorllewin. Mae sawl agwedd o opera yn debyg i ddrama gyffredin: actio, gwisgoedd, ac addurn llwyfan. Fodd bynnag, yn wahanol i ffurfiau eraill o ddrama, canu sydd wrth graidd opera. Cyfeilir y canwyr gan grŵp o offerynwyr, a all fod cyn lleied ag 13 o offerynwyr (mewn operâu Benjamin Britten er enghraifft) neu'n gerddorfa symffonig llawn (fel mewn operâu Wagner). Weithiau defnyddir dawns yn ogystal, yn enwedig yn y traddodiad Ffrengig (gyda chyfansoddwyr megis Lully a Rameau).
Mae sawl traddodiad o wahanol lefydd yn y byd a gelwir yn opera hefyd, Opera Tseinïaidd er enghraifft. Fodd bynnag, er fod ffurf tebyg ganddynt, datblygodd y traddodiadau hyn ar wahan: maent yn ffurfiau celfyddol nad ydynt yn dibynnol ar Opera Gorllewinol.
Cenir opera gan gorau Cymru ers Blodwen, opera boblogaidd y Dr Joseph Parry. Ar un adeg roedd y cwmnïau opera amatur yn niferus iawn. Ar ddechrau'r 20g hyfforddai a pherfformiai'r cantorion opera o Gymry yn Lloegr, a chyrhaeddai'r goreuon lwyfannau Sadlers Wells a Covent Garden.Sefydlwyd Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru gan y cyn-löwr Idloes Owen, sy'n cael ei gyfrif ymhlith y gorau yn Ewrop. Ymhlith y cantorion opera byd-enwog o Gymru mae Gwyneth Jones, Janet Price, Elizabeth Vaughan, Stuart Burrows, Geraint Evans, a Bryn Terfel.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Opera, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.